Wrth i’r tymor Nadolig edrych ychydig yn fwy ‘normal’ eleni, roedd hi’n bleser cynnal a bod yn rhan o’r gweithdai llusernau unwaith eto. Dyma un o’r sesiynau rhad ac am ddim sy’n digwydd pob mis Tachwedd fel rhan o raglen Nadolig Menter Aberystwyth.
Eleni, roedd 4 sesiwn yn ystod y mis – gyda nifer o wirfoddolwyr brwdfrydig yn helpu torri brigau, creu siapiau, rhoi cymorth i rieni, gludo a llawer mwy. Y gobaith yw y bydd pawb a fynychodd y sesiynau yn ymuno yn ein Gorymdaith Llusernau dydd Sadwrn 26ain Tachwedd, byddwn yn gadael Eglwys San Mihangel yn Aberystwyth am 5 o’r gloch.
Mae’r Orymdaith yn rhan o’r digwyddiad Goleuo’r Dref, sydd yn cynnwys marchnad ar Stryd y Popty o 12 hyd at 7yh, adloniant o 2 o’r gloch y pnawn, groto Sion Corn rhwng 2-4yp (yn rhad ac am ddim) ac yna yn dod i ben efo’r Orymdaith a throi’r goleuadau ymlaen! Mae croeso cynnes i unrhyw un fod yn rhan o’r Orymdaith, felly dewch yn llu!
Diolch enfawr i Eglwys San Mihangel am fod mor garedig yn gadael i ni gynnal y sesiynau yno. Rydym hefyd yn diolch i’n prif noddwyr Cyngor Tref Aberystwyth a Phrifysgol Aberystwyth – heb eu cymorth ariannol nhw ni fyddai digwyddiadau o’r fath yn y dref!