Mis Hydref diwethaf, cyhoeddais erthygl ar y wefan hon (https://broaber.360.cymru/2021/eich-barn-ddatblygu-harbwr-aberystwyth/ ) yn gofyn am eich cymorth i gael adborth am yr ailddatblygiad posib i ardal harbwr Aberystwyth yn dilyn cyhoeddiad grant o £10.9 miliwn gan Lywodraeth y DU. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb – roedd y wybodaeth dderbyniais yn rhan allweddol o fy ymchwiliad ar gyfer fy ngwaith cwrs daearyddiaeth Lefel A. Nawr bod y cwrs wedi dod i ben, dyma gyfle i rannu canlyniadau’r gwaith ymchwil gyda chi. Cafwyd bron 70 o ymatebion ac rwy’n gwerthfawrogi’n fawr eich mewnbwn.
Felly, beth oedd gofynion trigolion a busnesau ardal Aberystwyth ar gyfer yr ailddatblygiad? Dyma brif ddarganfyddiadau’r ymchwil:
Angen am ddatblygu ardal yr harbwr?
- Dim ond 44% o bobl oedd yn credu fod datblygiad gwreiddiol a dadleuol y Marina yn llwyddiant.
- Roedd 79% o bobl yn credu fod angen datblygiad pellach i ardal yr harbwr.
- Dim ond 8% oedd yn gwrthwynebu datblygiad pellach.
- Roedd 79% o bobl hefyd yn credu byddai datblygiad pellach i ardal yr harbwr yn rhoi hwb i fusnesau’r dre yn gyffredinol.
Beth hoffech chi weld?
Gofynnwyd i’r ymatebwyr sgorio’r opsiynau isod ar gyfer ail-ddatblygu ardal yr harbwr gan roi sgôr o 1-5 (5 = blaenoriaeth uchaf). Dyma’r canlyniadau:
Opsiynau (sgôr)
Bwytai (238)
Pont (201)
Amddiffyn yr arfordir (188)
Tai Bach (178)
Cludfwyd (164)
Siopau (163)
Tripiau Pleser (158)
Gwella cyfleusterau ar gyfer cychod (153)
Chwaraeon Dŵr (144)
Gweithgaredd Pysgota (141)
Gwesty (108)
Rhandai (77)
Eraill – 7 ateb (32)
Yr opsiwn i ychwanegu “pont i gysylltu’r ddwy ochr” oedd y brif flaenoriaeth gyda 54.9% yn rhoi sgôr o 5 i’r opsiwn yma. Byddai hyn yn sicr yn rhan angenrheidiol o’r ailddatblygiad gan fod arolwg lleoliad o’r nifer o gerddwyr ar ochr y Lanfa o’r harbwr yn llawer iawn is nag ochr y môr. Roedd cyn-berchnogion un o’r busnesau hefyd wedi datgan y byddai hyn yn rhan bwysig o’r ailddatblygiad.
Adfywiad ehangach
Mae gwaith eisoes wedi dechrau i adfywio’r Hen Goleg gwerth £36 miliwn. Mae disgwyl i’r gwaith hyn orffen yn Haf 2024. Yn ychwanegol, mae prosiect i wella’r amddiffynfeydd môr ar y gweill. Mae’r gwaith fod dechrau’r flwyddyn yma ac amcangyfrifwyd y byddai’r prosiect yn costio £11 miliwn (prisiau 2018).
Bydd cryn dipyn o newid felly i ardal glan môr Aberystwyth gyda dros £50 miliwn yn cael ei wario i adfywio’r ardal!