Wedi cwpl o flynyddoedd tawel o ganlyniad i Cofid-19 fe fydd Gigs Cantre’r Gwaelod yn dychwelyd gyda dau gig yn y Cŵps sydd yn prysur ddatblygu fel hwb unwaith yn rhagor ar gyfer gigs ac ymarferion cerddorol.
Ynys + Bitw – Tachwedd 17eg – 7.30 y.h.
Y cyntaf o’r gigs yma fydd gig i ddathlu rhyddhau albwm cyntaf Ynys ar yr 17eg o Dachwedd gyda Bitw yn cefnogi. Ynys yw’r enw ar brosiect pop seicedelig Dylan Hughes o Aberystwyth. Bydd rhai ohonoch yn ei gofio fel aelod o fandiau fel Radio Luxembourg/Race Horses ac Endaf Gremlin, ac mae wedi dychwelyd at greu cerddoriaeth yn y blynyddoedd diwethaf dan yr enw Ynys.
Mae cerddoriaeth Ynys yn gyfoethog ac yn sinematig ei naws ond eto i gyd yn fachog ac yn hawdd gwrando arno. Gan ddefnyddio synths diddorol o’r 80au a haenau o gitarau ‘jangli’ a lleisiau hyfryd sydd yn harmoneiddio yn gelfydd, does dim syndod fod Ynys wedi cael sylw gan y gwybodusion. Yn ddiweddar, bu’r band yn perfformio set byw ar sioe neb llai na Mark Riley ar BBC Radio 6 Music a’r wythnos hon gallwch wrando ar un o’r senglau oddi ar yr albwm, sef ‘Môr Du’, fel Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru.
Yn agor y noson fydd set unigol gan Bitw, sef prosiect pop seicedelig cerddor arall sydd â CV cerddorol reit drawiadol – Gruff ab Arwel. Byddwch wedi clywed caneuon bachog Bitw ar y radio yn rheolaidd ers sawl blwyddyn bellach a bydd yn ddiddorol iawn clywed y caneuon yma mewn arddull solo – gitâr drydanol a llais.
Tecwyn Ifan + Mari Mathias – Rhagfyr 15fed – 7.00 y.h.
Noson ar y cyd â chylchgrawn Y Selar fydd hon er mwyn dathlu cerddoriaeth enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar 2022, sef y bytholwyrdd Tecwyn Ifan gyda Mari Mathias yn cefnogi.
Mae Tecwyn Ifan wedi bod yn ffigwr amlwg iawn yn y byd canu Cymraeg ers diwedd y 60au, ac erbyn hyn mae wedi rhyddhau 11eg albwm sy’n llawn ffefrynnau sydd mor boblogaidd ag erioed. Rhyddhaodd Tecs ei albwm diweddaraf, sef Santa Roja, yn 2021 ac mae’n albwm sydd wedi cael ei fwynhau sawl gwaith yma yn GCGHQ.
Yn agor y noson fydd Mari Mathias, y gantores ifanc o Dalgarreg sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Mari wedi bod yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd yng Ngheredigion a thu hwnt ers blynyddoedd ond ers ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2019 mae ei gyrfa wedi carlamu yn ei blaen. Bu Mari yn brysur iawn eleni yn rhyddhau ei albwm cyntaf, sy’n dangos datblygiad ac aeddfedu cerddorol trawiadol, a dweud y lleiaf, ac mi fydd yn bleser o’r mwyaf ei chroesawu i’n plith.