Ar Gered yn y Topie

Bydd teithiau cerdded Cered yn ailgychwyn ym mis Medi

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Ydych chi’n mwynhau mynd i gerdded ond yn awchu gallu darganfod llwybrau newydd yn agos i gartref? Beth am ymuno â thaith gerdded nesaf ‘Ar Gered’ o gwmpas ardal Cwmbrwyno a Chwm Rheidol ar y 24ain o Fedi?

Teithiau tywys cyfrwng Cymraeg gan Cered: Menter Iaith Ceredigion yw ‘Ar Gered’ ac ers y daith gyntaf nôl ym mis Ionawr eleni mae degau o gerddwyr brwdfrydig wedi mwynhau dod ynghyd i ddarganfod rhai o drysorau cudd Y Topie.

Dros y misoedd diwethaf mae Ar Gered wedi gweld Steff Rees, Arweinydd Tîm Cered yn arwain teithiau o gwmpas BroAber o Landyfi i Fwlch Nant yr Arian ac mae pob taith yn tueddu bod o gwmpas pum milltir o hyd.

Fel teithiau tywys Cymraeg eu hiaith mae Ar Gered yn croesawu siaradwyr Cymraeg o bob math gan gynnwys rheiny sydd ond yn cymryd eu camau cyntaf tuag at dysgu’r iaith. Mae’r teithiau yn gweld siaradwyr rhugl a dysgwyr o lefelau gwahanol yn sgwrsio yn Gymraeg yn gwbl naturiol am bopeth dan haul gan gynnwys natur a hanes yr ardal.

Y daith nesaf

Os ydy’r erthygl a’r fideo hyrwyddo yma wedi eich perswadio i ddod ‘Ar Gered’ yna beth am gofrestru ar gyfer y daith nesaf sef taith o gwmpas Cwmbrwyno a Chwm Rheidol ar ddydd Sadwrn y 24ain o Fedi? Bydd y daith yn cychwyn yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian am 10.30 y.b. ac yn eich tywys chi ar hyd llwybrau trawiadol i weld rhai o olygfeydd gorau ein bro.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk