Ar Gered yng Nghwmbrwyno

Bron 30 o gerddwyr yn crwydro’r bryniau gyda Cered

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)
Mwynhau ein cipolwg cyntaf o Gwm Rheidol
Prydferthwch Cwm Rheidol a'i argae
Gweld y tswff tswff ar ei ffordd i Aberystwyth
Gwyrddni Cwm Rheidol
Am le i gael picnic
Cinio, llun a chlonc yng nghysgod Castell Bwa Drain

Ydych chi erioed wedi gweld yr olygfa ysblennydd o Gwm Rheidol o ardal Castell Bwa Drain? Wel, dyna wnaeth 27 o gerddwyr siaradus ar daith gerdded Ar Gered ddydd Sadwrn, Medi 24ain.

Man cychwyn y daith hon oedd Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nantyrarian, ac yn hytrach na cherdded i gyfeiriad y goedwig neu’r llyn fel mae’r mwyafrif llethol o ymwelwyr yn ei wneud fe aethom i gyfeiriad y de h.y. yr ochr arall i’r ffordd fawr.

Gan groesi’r sticil (neu’r gamfa – beth ydych chi’n ei ddweud?) fe ddilynom y llwybr gweiriog heibio’r tyrbinau gwynt i gyfeiriad Cwmbrwyno gan fwynhau ambell seibiant i sylwi ar olion o’r oes fwyngloddio, gan gynnwys tipiau ac adfeilion digon clir bron 200 mlynedd ers i’r gweithfeydd cyntaf ddechrau yn y cwm.

Nesaf, fe wnaethom ddilyn cefnffyrdd a llwybrau hyfryd ar hyd Banc Hafodau a Banc Blaendyffryn cyn troi i gyfeiriad Cwm Rheidol. Roedd y llwybr ar hyd ochr y cwm heibio Gwar-llyn a’r Gelli ychydig yn serth, ond roedd y prydferthwch naturiol a’r golygfeydd o’r trên bach ar y top yn gwneud y cyfan yn fwy na gwerth yr ymdrech gorfforol.

Yn dilyn picnic yng nghysgod bryngaer Castell Bwa Drain, fe wnaethom ddilyn y ffordd fach gul ’nôl i gyfeiriad Cwmbrwyno a Bwlch Nantyrarian gan fwynhau disied yn y caffi.

Fe fydd y daith nesaf yn cael ei chynnal ym mis Hydref ac yn cael ei chyhoeddi yn fuan. Os hoffech dderbyn y manylion, e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk.

Diolch yn fawr i Iestyn Hughes am y lluniau