Roedd cyfarfod agoriadol Cymdeithas Lenyddol y Garn nos Wener, 21 Hydref, yn noson i’w chofio. Daeth cynulleidfa niferus ynghyd yng Nghapel y Garn i wrando ar gyflwyniad meistrolgar yr Athro Geraint H. Jenkins oedd yn dathlu dawn unigryw Tegwyn Jones, Bow Street.
Cawsom ein tywys drwy yrfa amrywiol Tegwyn – o bentref Benbontrhydybeddau i Ysgol Ramadeg Ardwyn a Choleg Prifysgol Aberystwyth, ei flwyddyn yn athro yn sir Forgannwg, cyn iddo ddod yn ôl i ymuno â staff Geiriadur Prifysgol Cymru. Ymddiddorodd hefyd yn hanes y cymeriad lliwgar Lewis Morris o Fôn, a ymgartrefodd yn ardal Goginan, a barddoniaeth ar ffurf baledi a thribannau.
Ond prif bwyslais y sgwrs oedd cyflwyno dawn Tegwyn fel llenor a chartwnydd dyfeisgar, deifiol ei hiwmor. Cyfansoddodd gerddi ysgafn a defnyddio’i ddawn fel artist medrus i’w darlunio, gan arddangos ei ffraethineb a dawn ddychanol anghyffredin. Cyfrannodd yn helaeth i amrywiol gylchgronau a bu’n gyfrifol am lunio a golygu nifer o gyfrolau, yn cynnwys casgliadau o limrigau a chartwnau. Mae’n siŵr y bydd llawer yn cofio Cadwgan, y llygoden o’r lleuad, cyfres hyfryd i blant gan Tegwyn a’i frawd, y cartwnydd Elwyn Ioan.
I gyd-fynd â’r sgwrs, trefnwyd arddangosfa o rai o weithiau celf a chartwnau Tegwyn yn y festri, a braf iawn oedd cael cwmni Tegwyn ac aelodau o’r teulu yn y digwyddiad – dechrau ardderchog i raglen y Gymdeithas am eleni.