Mae’r freuddwyd yn parhau

Sgoriodd Rhys Norrington-Davies ei gôl gyntaf i Gymru neithiwr yn erbyn sêr yr Iseldiroedd.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Rhys-Norrington-DaviesLlun Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Yn Hydref 2020 ymddangosodd stori ar BroAber360 yn llongyfarch Rhys Norrington-Davies o Dalybont ar ennill ei gap cyntaf i dîm pêl-droed Cymru yn erbyn Bwlgaria yn Soffia. Llai na dwy flynedd yn ddiweddarach mae’n dathlu ei ddegfed cap a’i gôl gyntaf i Gymru.

Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn un cofiadwy iawn i Rhys. Ychydig dros wythnos yn ôl cafodd gêm gadarn iawn fel cefnwr chwith yn amddiffyn Cymru, oedd ar ei newydd wedd wedi Robert Page orffwys rhai o’u brif chwaraewyr. Unwaith eto roedd y sylwebwyr yn canmol gwaith diflino Rhys. Er hynny siomedig oedd y canlyniad, colli oddi cartref yn erbyn gwlad Pwyl yn sgil gôl hwyr o 2-1.

Nos Sul diwethaf roedd yn dathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Wcráin yng Nghaerdydd wedi iddo ddod i’r maes fel eilydd am y munudau olaf. Buddugoliaeth wnaeth sicrhau presenoldeb Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 (falch o beidio gorfod ail-adrodd y dyddiad ’na o hyn ‘mlaen!).

Yna neithiwr ei berfformiad gorau i Gymru. Y tro yma roedd yn chwarae ar ochr chwith canol y cae Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghaerdydd. Un funud roedd yn amddiffyn a’r munud nesaf yn carlamu lawr yr asgell chwith ac yn ben tost i amddiffyn Yr Iseldiroedd. Peniodd dros y trawst o groesiad o’r asgell dde yn yr hanner cyntaf.

Gyda Chymru yn colli o gôl i ddim yn yr amser ar gyfer anafiadau ar ddiwedd y gêm, dyma Rhys yn gwella ar ei ymdrech yn yr hanner cyntaf. Connor Roberts yn croesi o’r asgell dde, Rhys yn ail-ddechrau ei rediad tua’r gôl ac yn neidio’n uwch na’r amddiffynnwr i benio’r bêl fel mellten i’r rhwyd. Ei gôl gyntaf i Gymru ar ei ddegfed cap. Yn anffodus llai na dwy funud yn ddiweddarach sgoriodd Yr Iseldiroedd eto i ennill 2-1.

Yn ôl y wefan Walesonline (https://tinyurl.com/kr28w6e7) Rhys oedd seren y gêm neithiwr. Yn sicr mae ei berfformiadau dros yr wythnos diwethaf a’i allu i chwarae mewn mwy nag un safle yn ei wneud yn anodd i Robert Page beidio â’i gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar ym mis Tachwedd.

Mae’n werth darllen cyfweliad gyda Patrick, tad Rhys, ar wefan “Welsh Football Fans” (https://tinyurl.com/j8fks8e6) yn rhestri’r siomedigaethau, y dyfalbarhad a’r aberth sydd angen i lwyddo yn y byd pêl droed. Geiriau olaf Patrick yn yr erthygl oedd:

“And you know he’s getting there”

Bellach mae’r hogyn lleol yn gwneud ei farc go iawn ar y byd pêl-droed gyda Qatar ar y gorwel.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.