Rydym yn gwybod ers tro fod y Cynghorydd Paul Hinge wedi ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Cynghorydd Sir dros ward Tirymynach – ond beth am y Cynghorwyr Cymuned?
Gyda chyllideb o £19,000 y flwyddyn, mae Cyngor Cymuned Tirymynach yn gwario £4,600 ar roddion i elusennau megis Cylch Meithrin Rhydypennau, ac yn rhoi arian i Ysgol Rhydypennau a Neuadd Rhydypennau.
Tirymynach
Yn Nhirymynach, mae lle i 8 cynghorydd. Derbyniwyd 5 enwebiad llwyddiannus, sydd i gyd wedi bod ar y Cyngor blaenorol:
- Meinir Chambers
- Vernon Jones
- Meinir Lowry
- Elspeth Morgan
- Robert Allan Pugh
Llangorwen
Yn Llangorwen – mae lle i 4 cynghorydd, ond dim ond un ymgeisydd, Dewi Evans yn dychwelyd.
Cyfanswm o 6 cynghorydd i 12 sedd.
Pwy sydd wedi gadael?
Mae’r unigolion canlynol wedi gadael – Dewi James, Iestyn Hughes, Owain Morgan, Rowland Rees a Siân Jones. Diolch enfawr iddynt i gyd am eu cyfraniadau.
Y Cynghorydd Paul Hinge
Yn wreiddiol o Aberteifi, mae’r Cynghorydd Paul Hinge bellach yn byw yn Bow Street ac mae’n cynrychioli ward Tirymynach ar Gyngor Sir Ceredigion. Ef hefyd yw Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, ac mae wedi ymgyrchu’n helaeth dros hawliau cyn-filwyr ar hyd y blynyddoedd, ac yntau’n gyn-filwr ei hun.
Roedd yn gadeirydd y Cyngor Sir dros y flwyddyn ddiwethaf ac felly wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau.
Gallwch gysylltu â’r Cynghorydd Paul Hinge ar 07870 826252 neu paul.hinge@ceredigion.gov.uk.