Eisteddfod y Ddolen 2022

Rhestr cystadleuthau Eisteddfod y Ddolen 2022

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
EsiteddfodyDDOLEN_capsiwn-1

Oes gyda chi gapsiwn da i’r llun yma? Cystadlwch yn Eisteddfod y Ddolen!

Ydych chi wedi bod wrthi’n crafu pen ac yn cynhyrchu campweithiau? Mae’r deunydd wedi dechrau ein cyrraedd – HWRÊ! Ond edrychwn ymlaen at dderbyn mwy yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae dyddiad cau Eisteddfod y DDOLEN 2022 dydd Gwener, 28 Ionawr.

Beirniaid gwaith yr adran agored a’r ysgrifennu creadigol i blant a phobl ifanc fydd John a Menna Jones, Ffair-rhos, a beirniad y gwaith celf i blant a phobl ifanc fydd Valeriane Leblond. Cyflwynir y gadair gyfforddus, ddefnyddiol i enillydd y gerdd ysgafn, a bydd £5 yn wobr gyntaf ym mhob cystadleuaeth arall.

Cyhoeddwyd y testunau yn y ddau rifyn diwethaf o’r DDOLEN ac ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: https://smala.net/steddfota/

Dyma’r arlwy o gystadlaethau eleni.

AGORED

  1. Cerdd Ysgafn: CRWYDRO
  2. Limrig: yn cynnwys enw un o bentrefi ardal Y DDOLEN
  3. Brawddeg: CYMUNED
  4. Erthygl addas i’r papur bro
  5. Stori Ficro, 100 gair: BREUDDWYD
  6. Ffotograffiaeth: FY MILLTIR SGWÂR
  7. Pos addas i bapur bro
  8. Capsiwn i lun (gweler llun yr iâr!)

PLANT A PHOBL IFANC

4 categori oedran

  • Derbyn, Bl. 1 a Bl. 2
  • Bl. 3 a 4
  • Bl. 5 a 6
  • Bl. 7, 8 a 9
  1. Celf (Unrhyw Gyfrwng): BYD NATUR
  2. Ysgrifennu Creadigol: MYND AM DRO

Danfonwch eich deunydd drwy ebost i: y.ddolen@gmail.com neu drwy’r post at: Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT.

Ewch ati i gystadlu.