Ydych chi wedi bod wrthi’n crafu pen ac yn cynhyrchu campweithiau? Mae’r deunydd wedi dechrau ein cyrraedd – HWRÊ! Ond edrychwn ymlaen at dderbyn mwy yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae dyddiad cau Eisteddfod y DDOLEN 2022 dydd Gwener, 28 Ionawr.
Beirniaid gwaith yr adran agored a’r ysgrifennu creadigol i blant a phobl ifanc fydd John a Menna Jones, Ffair-rhos, a beirniad y gwaith celf i blant a phobl ifanc fydd Valeriane Leblond. Cyflwynir y gadair gyfforddus, ddefnyddiol i enillydd y gerdd ysgafn, a bydd £5 yn wobr gyntaf ym mhob cystadleuaeth arall.
Cyhoeddwyd y testunau yn y ddau rifyn diwethaf o’r DDOLEN ac ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: https://smala.net/steddfota/
Dyma’r arlwy o gystadlaethau eleni.
AGORED
- Cerdd Ysgafn: CRWYDRO
- Limrig: yn cynnwys enw un o bentrefi ardal Y DDOLEN
- Brawddeg: CYMUNED
- Erthygl addas i’r papur bro
- Stori Ficro, 100 gair: BREUDDWYD
- Ffotograffiaeth: FY MILLTIR SGWÂR
- Pos addas i bapur bro
- Capsiwn i lun (gweler llun yr iâr!)
PLANT A PHOBL IFANC
4 categori oedran
- Derbyn, Bl. 1 a Bl. 2
- Bl. 3 a 4
- Bl. 5 a 6
- Bl. 7, 8 a 9
- Celf (Unrhyw Gyfrwng): BYD NATUR
- Ysgrifennu Creadigol: MYND AM DRO
Danfonwch eich deunydd drwy ebost i: y.ddolen@gmail.com neu drwy’r post at: Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, Ceredigion, SY23 5DT.
Ewch ati i gystadlu.