ECSGLIWSIF: Cip tu ôl i len Canolfan y Celfyddydau

Pwy sy’n dod ddydd Mawrth?

Frân Wen
gan Frân Wen

Mae cynhyrchiad arloesol Frân Wen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth wythnos nesaf, ond rydan ni wedi penderfynu rhyddhau tamaid bach i aros pryd (yn ecsgliwsif i ddarllenwyr BroAber360!)

Mae Ynys Alys yn cyfuno theatr, rap a pop ac yn dilyn merch ifanc a’i hannibyniaeth newydd wrth iddi adael ei chartref am y tro cyntaf.

Mae’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi a’i pherfformio’n rhithiol gan yr artist rap Lemarl Freckleton a’r artist pop Cymreig Casi Wyn. Mae’r Frân Wen wedi penderfynu rhyddhau rhan o fideo gerddoriaeth yn arbennig ar gyfer darllenwyr BroAber360.

Yn Ynys Alys, mae’r prif gymeriad yn ceisio gwneud synnwyr o’i hun mewn byd sydd y tu hwnt i bob dealltwriaeth wrth iddi wynebu’r cwestiynau mawr am y pethau sy’n ei diffinio, ei hunaniaeth a’i pherthynas gyda’i ‘chartref’ newydd.

Mae Ynys Alys yn ymweld â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 29 Mawrth.

Am docynnau a gwybodaeth bellach ewch i www.franwen.com