Pam Dylen Ni Ddim?

Hanes sengl newydd gan Bwca

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)
Steff-a-Ffion-1

Dydd Gwener, 15 Gorffennaf, fe wnaeth Bwca, sy’n brysur yn paratoi am wythnos i’w chofio yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 eleni, ryddhau sengl newydd sydd â’i gwreiddiau 106 o flynyddoedd yn ôl pan ymwelodd y brifwyl â phrif dref y sir.

Mae’n annhebygol y bydd unrhyw un sy’n darllen hwn yn cofio Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1916, nac ychwaith unrhyw ddigwyddiadau yn y pafiliwn. Ond araith arbennig o’r pafiliwn hwnnw sydd wedi ysbrydoli’r gân newydd hon, sef ‘Pam Dylen Ni Ddim?’

Cliciwch yma i wrando, ffrydio neu lawrlwytho’r gân ar eich hoff blatfform cerddoriaeth ddigidol: Bwca – Pam Dylen Ni Ddim? (orcd.co).

Mae hon eto’n gân hynod o fachog gan Bwca, ond y tro hwn maen nhw wedi gwthio’u sain i gyfeiriadau hynod o ddiddorol a gwahanol fydd yn siŵr o droi pennau.

Un o’r pethau diddorol a gwahanol hynny yw’r prif lais, sef Ffion Evans, ac nid Steff Rees, cyfansoddwr y gân a phrif leisydd arferol Bwca. Canu’r trwmped a llais cefndir yw rôl arferol Ffion, sy’n hanu o bentre Llandre, yn y band ond mae Steff, sy’n byw yn Aberystwyth, a holl deulu Bwca wedi eu syfrdanu gan natur unigryw ei llais ers sbel, ac maen nhw’n llawn cyffro i ryddhau’r gân er mwyn ei arddangos i bawb.

Nid y prif lais yw’r unig un sydd yn mynd i’ch taro fel un gwahanol i’r arfer, achos mae Bwca wedi gwahodd gwestai gwadd arbennig iawn i gyfrannu ei ddehongliad o’r araith gan David Lloyd George wnaeth ysbrydoli’r gân – neb llai na’r actor adnabyddus Richard Elfyn, sydd wrth gwrs wedi actio’r dyn ei hun!

Gwreiddiau’r gân

Ysgrifennwyd y gân yn ystod haf 2020 fel rhan o brosiect ‘Datgloi ein Treftadaeth Sain’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle gwnaeth Steff Rees, ynghyd â nifer o gyfansoddwyr eraill, greu caneuon yn seiliedig ar recordiadau amrywiol o’r Archif Sain. Dewisodd Steff greu cân wedi ei seilio ar yr araith ‘Why Should We Not Sing’ gan David Lloyd George o Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1916 yn Aberystwyth. Gellir darllen mwy am yr araith hon a gwrando ar glip ohoni trwy glicio isod:

‘Why Should We Not Sing’ – Blogiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Steff wedi defnyddio geiriau o’r araith hon ar gyfer y penillion ond wedi ychwanegu cytgan Cymraeg bachog, rhywbeth fydd yn ddigon adnabyddus i ffans Bwca!

Wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd o’r diwedd i Geredigion yr haf yma a Chymru ar y ffordd i Gwpan y Byd yn Qatar, mae geiriau’r gân yn ymddangos yn amserol iawn, yn genedlaetholgar ac anthemig wrth i ni dderbyn yr alwad i ganu yn wyneb yr holl heriau sydd yn ein wynebu – boed hynny’n rhyfel, afiechyd neu galedi.

Recordiwyd y gân hon yn Stiwdio Sain yn ystod gwanwyn 2021 dan ofal y cynhyrchydd Ifan Jones, a dyma’r cerddorion sydd yn ymddangos ar y trac yma: Ffion Evans (prif lais), Steff Rees (gitârs trydanol ac acwstig, a llais cefndir), Alun Williams (gitâr fas a llais cefndir) ac Iwan Hughes (drymiau a llais cefndir).

Gwylio Bwca yn fyw

Mae Bwca wedi bod yn brysur tu hwnt yn ystod 2022 gan ymarfer yn rheolaidd yn y Cŵps a gigio’n helaeth yn lleol ac ar draws y wlad, gan gynnwys yn rhai o wyliau mwyaf Cymru, fel Tafwyl a Sesiwn Fawr Dolgellau.

Dros y cyfnod diwethaf mae lein-yp Bwca wedi bod yn hylifol dros ben, ond mi fydd modd i chi eu gwylio nhw mewn dau o gigs y Brifwyl fel band mawr o saith. Cafwyd première o’r band mawr, llawn, yma ar lwyfan enwog y Sgwâr yn y Sesiwn Fawr dydd Sadwrn diwethaf ac fe gafodd y band ymateb da.

I weld Bwca yn yr Eisteddfod:

  • Caffi Maes B – Dydd Sul – 1.30yp – band acwstig
  • Llwyfan y Maes – Dydd Llun – 3.30yp – band llawn
  • Gigs Cymdeithas yr Iaith – Nos Lun – 8.30yh – band llawn
  • Pentre Ceredigion – 3.00yp – Dydd Gwener – band acwstig
  • Stondin Cered – 12yp – Dydd Sadwrn – band acwstig

I ddysgu mwy am Bwca, ewch i www.linktr.ee/bwcacymru.