
Parêd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth, 2015
Cytunodd Cyngor Tref Aberystwyth i roi diwrnod o wyliau i’w staff ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gan ymuno â nifer o gyflogwyr ar draws Cymru sy’n awyddus i ŵyl y banc swyddogol gael ei greu ac sy’n gweithredu tua hynny ar lawr gwlad.
Yn ôl y Cynghorydd Jeff Smith, a gyflwynodd y cynnig,
Mae’r ŵyl yn “bwysig iawn o ran hunaniaeth a diwylliant Cymru” ac rwy’n gresynu nag oedd Llywodraeth San Steffan am roi’r pŵer i Lywodraeth Cymru i greu Gŵyl y banc swyddogol yng Nghymru.
Yn hytrach, yr hyn allem ni wneud ydy ymuno â nifer o sefydliadau a chyflogwyr sydd yn rhoi diwrnod o wyliau i’w staff i ddathlu’r ŵyl. Gallwn greu ŵyl y banc, i bob pwrpas, i’n staff.”
Roedd cynghorwyr eraill hefyd o blaid y syniad, gyda’r Cynghorydd Talat Chaudhri yn eilio a’r Cynghorydd Kerry Ferguson yn galw’r cynnig yn un “cyffrous”. Mae Kerry hefyd wedi penderfynu rhoi diwrnod bant i staff ei chwmni Gwe Cambrian Web.
Nododd Cynghorydd Lucy Huws hanes Dewi Sant a’r phwysigrwydd i “wneud y pethau bychain”.
Mae’r penderfyniad gan y Cyngor Tref yn dilyn penderfyniad diweddar Cyngor Gwynedd i greu Gŵyl y Banc i’w staff. Mae Gŵyl Sant Andrew wedi bod yn ŵyl y banc swyddogol yn yr Alban ers 2007.