Ffenestri Gŵyl Ddewi
Criw bach gweithgar yw Ceinwen, Lavinya, Kailen a Magi, Capteiniaid Cymraeg Ysgol Syr John Rhys sydd yn ymdrechu’n galed i hybu’r Gymraeg yn yr ysgol ac allan yn ein cymuned leol.
Gosodon nhw her i ddisgyblion, llywodraethwyr, cynghorwyr cymuned a busnesau lleol i gefnogi Eisteddfod Cardi Iaith a oedd wedi gosod y gystadleuaeth, neu i fynd ati i ymuno yn yr hwyl ac addurno ffenest i ddathlu dydd ein nawddsant ar Fawrth y 1af. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych gyda bobl o bob cwr o ward Blaenrheidol yn cymryd rhan ac yn llenwi eu ffenestri gyda bob math o bethau Cymreig, o waith celf, baneri, crysau rygbi i ladis Cymreig.
Diolch yn fawr i bawb am gefnogi, a hyfryd yw gweld y ffenestri amrywiol yn dod â lliw a Chymreictod i’r pentref i ddathlu’r diwrnod pwysig yma. Mae’r Capteiniaid Cymraeg yn awyddus i gynnal yr her eto y flwyddyn nesaf, felly byddwch yn barod amdani.