Roedd Drudwns Aber yn ôl ar lwyfan eisteddfodol am y tro cyntaf ers dechrau 2020 neithiwr yn Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth.
Mae Drudwns Aber yn grŵp llefaru ‘newydd’, a sefydlwyd ddiwedd 2019, ac yn croesawu unrhyw ferched o Aberystwyth a’r cyffiniau i ymuno. Sefydlwyd y grŵp i gymdeithasu ac adrodd, gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn cefnogi cymaint o eisteddfodau lleol â phosibl.
Wrth gwrs, doedden ni byth yn meddwl yn 2020, pan wnaethon ni gystadlu yn ein eisteddfod leol gyntaf (Eisteddfod Swyddffynon), mai dyna fyddai ein tro olaf am ddwy flynedd! Felly, roedd hi’n bleser mawr dod yn ôl at ein gilydd ychydig fisoedd yn ôl gyda’r nod o gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst, ond hefyd i gefnogi Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth.
Perfformiodd Drudwns Aber ‘Mae Angen Maes’ gan Guto Dafydd, cerdd sy’n archwilio pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol fel digwyddiad blynyddol ym mywydau unrhyw deulu Cymreig – o’r camau cyffrous hynny fel plentyn bach yn rhedeg o amgylch y maes, i’r cwpanau o de sgwrsio ym mhabell Merched y Wawr. Gan wisgo welis, sbecs haul a ponchos – roedd yn sicr yn brofiad hwyliog ar y llwyfan neithiwr!
Dywedodd Heledd Morgan, aelod o Drudwns Aber: “Mae cael dychwelyd i’n cyfarfodydd wythnosol wedi bod yn grêt, ac rydym i gyd wedi mwynhau cael ailgydio yn yr ymarferion a pharatoi ar gyfer Eisteddfod Calan Mai a’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n prysur agosau!
Yn fwy na dim, mae wedi bod yn hwyl cwrdd eto ar ôl dwy flynedd o Cofid, i sgwrsio, rhannu straeon a chwerthin. Rydym yn griw hwyliog a chyfeillgar a byddem wrth ein boddau yn croesawu aelodau newydd i’n plith.”
Mae Drudwns Aber yn cyfarfod ar nos Sul yn Aberystwyth. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi llefaru o’r blaen, mae croeso cynnes i chi. I gael gwybod mwy am Drudwns Aber, neu i ymuno, cysylltwch â @drudwns (drudwnsaber) ar Instagram.