Diwrnod cyntaf llwyddiannus yn yr Urdd i ysgolion Gogledd Ceredigion

Cyntaf i’r ddwy gân actol, ymgom a thrydydd i’r gerddorfa ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod

Cafodd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth lwyddiant eisteddfodol yn Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych ar ddydd Llun, 30ain o Fai 2022.

Yr ysgol oedd yn gyntaf yn y gystadleuaeth heriol Cân Actol i ysgolion a dros 100 o ddisgyblion (4 i 11 mlwydd oed). Y ail roedd Ysgol y Felinheli, Gwynedd gydag Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug yn drydydd.

Dyma rai o’r aelodau yn derbyn eu gwobr

Daeth y gerddorfa hefyd yn drydydd mewn cystadleuaeth heriol iawn – da iawn chi. Gallwch wylio eu perfformiad yma.

 

Bydd tipyn mwy o gystadlu dros y dyddiau nesaf, felly os na fyddwch yn gallu mynd i Ddinbych – beth am ymuno ar wefan S4C Clic yr Urdd

Pob lwc i bawb a llongyfarchiadau a diolch i’r holl rai fu yn hyfforddi.

Cyntaf hefyd oedd hanes Ysgol Plascrug – nid yn unig ar y gystadleuaeth Cân Actol i Ddysgwyr, ond hefyd cyntaf ar gystadleuaeth yr ymgom.

Parti Cerdd Dant oedd gan Ysgol Rhydypennau

Gydag Ysgol Llanilar yn cystadlu ar gystadleuaeth y corau

Da gweld bod pob rhan o Ogledd Ceredigion yn ymgeisio.