Disgyblion Ysgol Syr John Rhys yn creu panel comig ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2022

Disgyblion Ysgol Syr John Rhys yn creu panel comig ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2022

gan Caryl Jones

‘Nabod Nant y Moch

Profiad gwych i’r disgyblion yn ddiweddar oedd cael creu panel comig hollol unigryw yn adrodd stori o’r ardal leol o dan arweiniad arbenigol Beth o gwmni CIPS Multimedia.

Yn dilyn prosiect podlediadau gyda’r criw Siarter Iaith yn y sir, ble fu’r plant yn dysgu mwy am hanes a phwrpas yr argae yn Nant y Moch, daeth y gwahoddiad i rannu’r wybodaeth yma ar ffurf panel cartŵn hwyliog.

Wrth baratoi ar gyfer y podlediad cynhaliwyd cyfweliadau gydag aelodau Statkraft, sydd heddiw yn berchen ar yr argae, gwyliwyd ffilmiau o’r cyfnod megis ‘Cwm Tawelwch’ ac astudiwyd hen luniau o’r cyfnod, a roddodd ddarlun cyflawn i’r plant o’r hyn ddigwyddodd.

Hawdd wedyn oedd rhannu’r stori i adrannau a darlunio lluniau, a dysgont fwy am bwysigrwydd pŵer hydro electrig wrth ddeall bod angen newid ein ffordd o ddefnyddio a llosgi ffynonellau egni.

Aeth grwpiau o blant ati i bortreadu’r stori yn eu ffyrdd unigryw eu hunain gan greu paneli lliwgar a deniadol. Wrth benderfynu ar y gwaith terfynol, penderfynodd pawb i ddewis un agwedd o bob panel fel bod gwaith pawb yn gallu cael ei gynnwys a’i arddangos.

Roedd hwn yn brosiect hollol newydd i’r plant a mwynhaont yn fawr wrth ddysgu am yr holl waith sydd yn mynd mewn i greu paneli comig o’r fath.  Mae’r plant yn falch iawn o’r gwaith gorffenedig ac yn edrych ymlaen yn arw at weld y gwaith yn cael ei arddangos law yn llaw ag ysgolion eraill y sir yn Eisteddfod Ceredigion, 2022.  Am ffordd wych o adrodd hanesion a storiâu pwysig ein Sir!  Diolch i griw Siarter Iaith y Sir am y cyfle gwych yma i rannu traddodiadau a diwylliant ein hardal mewn ffordd hwylus a chŵl!