Diffyg llaeth buwch ym Mhentref Ceredigion ar Faes yr Eisteddfod

Cyngor Sir Ceredigion yn dewis ’diod ceirch’ o Ffrainc dros laeth ffres lleol

gan Sara Jenkins
"Oat Drink" o Ffrainc

Diod ceirch yn unig ym Mhentref Cyngor Sir Ceredigion

Cefais siom aruthrol yng Nghyngor Sir Ceredigion ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun. Roedd yna weithgaredd gwneud smwddis ym Mhentref Ceredigion, a’r unig ddewis oedd ’diod ceirch’ (oat drink) – diod oedd wedi’i chynhyrchu yn Ffrainc.

Pan ofynnais a oedd modd i’m plant gael llaeth, doedd hyn ddim yn bosib, er gwaetha’r ffaith fod Llaeth Llanfair, fferm laeth ger Maes yr Eisteddfod,  yn delifro llaeth ffres yn ddyddiol i ardal Pentref Ceredigion.

Yn ôl y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor, sydd hefyd yn gynghorydd ar ardal yr Eisteddfod, o ddydd Mercher (3 Awst) ymlaen, mae’n debyg y bydd modd i blentyn ddewis cael llaeth. Ond mi fydd yn rhaid iddynt ofyn amdano, ac mi fydd yn rhaid i bob rhiant roi caniatâd i’w plentyn gael llaeth. Fel arall, ’diod ceirch’ fydd hi, er ei bod hi’n bosib fod gan blant alergedd i geirch hefyd.

Doedd yna ddim smwddies ar y maes dydd Llun.

Plis, mynnwch laeth buwch yn eich smwddies o hyn ymlaen. Diolch.