Cefais siom aruthrol yng Nghyngor Sir Ceredigion ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun. Roedd yna weithgaredd gwneud smwddis ym Mhentref Ceredigion, a’r unig ddewis oedd ’diod ceirch’ (oat drink) – diod oedd wedi’i chynhyrchu yn Ffrainc.
Pan ofynnais a oedd modd i’m plant gael llaeth, doedd hyn ddim yn bosib, er gwaetha’r ffaith fod Llaeth Llanfair, fferm laeth ger Maes yr Eisteddfod, yn delifro llaeth ffres yn ddyddiol i ardal Pentref Ceredigion.
Yn ôl y Cynghorydd Ifan Davies, Cadeirydd y Cyngor, sydd hefyd yn gynghorydd ar ardal yr Eisteddfod, o ddydd Mercher (3 Awst) ymlaen, mae’n debyg y bydd modd i blentyn ddewis cael llaeth. Ond mi fydd yn rhaid iddynt ofyn amdano, ac mi fydd yn rhaid i bob rhiant roi caniatâd i’w plentyn gael llaeth. Fel arall, ’diod ceirch’ fydd hi, er ei bod hi’n bosib fod gan blant alergedd i geirch hefyd.
Doedd yna ddim smwddies ar y maes dydd Llun.
Plis, mynnwch laeth buwch yn eich smwddies o hyn ymlaen. Diolch.