Oes diffyg gofal plant yn eich ardal chi?

Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am farn erbyn y 6ed o Fehefin 2022

Plant y Cylch yn paratoi ar gyfer y Parêd.

Mae gan drigolion Ceredigion tan y 6ed o Fehefin 2022 i wneud sylwadau ar yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant ddrafft, a holiadur yr ymgynghoriad drwy’r wefan: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/plant-a-phobl-ifanc/gofal-plant/digonolrwydd-gofal-plant/

 

Mae hyn yn cynnwys Clybiau Ar Ôl Ysgol, gofal coflediol, meithrinfeydd dydd yn ogystal a gwarchodwyr plant. Ar hyn o bryd mae 1,570 o leoedd Gofal Plant Cofrestredig ar gael yng Ngheredigion – 375 yn llai na phan gynhaliwyd yr un arolwg 2017-2022. Mae’r cwymp pennaf wedi bod yn y Clybiau Ar Ôl Ysgol – 418 ym Mawrth 2017 a 294 erbyn hyn.

Mae’n rhaid i Gyngor Sir Ceredigion gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd i sicrhau bod anghenion rhieni, lle bo hynny’n rhesymol ymarferol, yn cael eu clywed o ran darpariaeth gofal plant yn y sir.

Cyflwynwyd drafft Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ar ddydd Mercher 2 Mawrth 2022 lle cytunwyd y byddai’r adroddiad drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn dod i ben ar 6 Mehefin 2022.

Plant Ysgol Rhydypennau

Mae’r adroddiad yn adnabod bylchau ac yn cynnig awgrymiadau a fydd, pan yn ymarferol bosib, yn bodloni anghenion rhieni fel bod yr Awdurdod yn medru gwireddu’r ddyletswydd Gofal Plant yn ddigonol, fel y’i hamlinellir yn y Ddeddf Gofal Plant. Croesewir ymatebion i’r ymgynghoriad gan gyfranddalwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd â barn ar y mater.

Dywedodd Carys Davies, Rheolwraig Strategol Gofal Plant:

“Mae’r adroddiad wedi nodi bod yna annigonolrwydd lleoedd gofal plant mewn rhannau o Geredigion. Fel Awdurdod Lleol byddwn yn anelu at weithio gyda partneriaid i fynd i’r afael a’r materion a nodwyd. Datblygir Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn y Cyngor newydd i fynd i’r afael â’r bylchau.”

Cofiwch dweud eich dweud cyn 06 Mehefin 2022.