gan
Y Ddolen (papur bro)
Mi fydd yn rhaid i chi brynu eich copi er mwyn darganfod buddugwyr Eisteddfod y DDOLEN 2022! Cyhoeddir y gerdd ysgafn fuddugol sy’n dweud stori hen gwrci lliwgar Penbwlchheble! Cewch fynd am dro yn straeon buddugol disgyblion blwyddyn 5 a 6 ac adolygiad o fwyty newydd yr Athro yn Aberystwyth enillodd yr erthygl addas i bapur bro.
Yn ogystal â chynnyrch yr Eisteddfod, mae hwn yn rhifyn llawn dop 32 tudalen!
- Hynt a helynt yr ysgolion lleol
- Newyddion o’r pentrefi prysur
- Dod i wybod mwy am waith Simon Warburton o Moreia
- Aros i feddwl gan Beti Griffiths
- Sioe Llanilar – newyddion cyffrous!
- Cornel y Beirdd
- Tymor y Cynghorwyr Sir a chyfweliad gydag Alun Lloyd Jones sy’n ymddeol eleni.
- Nodiadau Natur gan Ann M. Davies ac Ian Sant (ffotograffydd)
- Dathlu Gŵyl Dewi – atgofion gan drigolion yr ardal
- O’r Gegin gan Mirain Griffiths
- Croesair gan Siân Lewis
Gobeithio y gwnewch fwynhau’r arlwy!
Os hoffech gefnogi papur bro Y DDOLEN rydym wrthi ar hyn o bryd yn casglu ar gyfer Cyfeillion y DDOLEN: £5 am y flwyddyn, a thynnir gwobrau o’r het yn fisol. Cysylltwch â ni drwy ebost ar y.ddolen@gmail.com am fanylion sut i ymaelodi.