Y DDOLEN Hydref yn eich siop leol

A welsoch chi’r sebra ar y clawr?

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
308530808_1307879773080428

Mae rhifyn Hydref papur bro Ystwyth ac Wyre ar gael i’w fwynhau!

Mynnwch eich copi o’ch siop leol a mwynhewch y darllen.

Yn rhifyn Hydref

  • Newyddion o’r pentrefi
  • Hanes Eiry o Langwyryfon ar antur yn Ne Affrig
  • Syniad ar sut i ddefnyddio eich betys yn y golofn goginio
  • Gwyn Evans yw cynghorydd y mis yng nghornel y cynghorwyr
  • Aros i Feddwl gan
  • Beti Griffiths
  • Profiad
  • Tia o Flaenplwyf yn cael tro ar hedfan hofrennydd
  • Nodiadau Natur gan Ann M. Davies
  • Mari Morgan sy’n cofio’r frenhines yng Nghornel y Beirdd
  • Croesair gan Siân Lewis

Digon o amrywiaeth i’ch cadw yn ddiddan wrth i’r nosweithiau dynnu ati.

Cofiwch ein bod ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr neu gyfranwyr newydd? Os ydych yn byw yn ardal Y DDOLEN a bod gyda chi diddordeb mewn cynorthwyo gyda’r papur, cysylltwch â ni y.ddolen@gmail.com

Byddai’n braf hefyd cryfhau’r cysylltiad rhwng BroAber a’r papur felly os fyddai rhywun a diddordeb cyhoeddi straeon ar ran Y DDOLEN ar y wefan, bysen yn falch clywed oddi wrthych.