gan
Y Ddolen (papur bro)
Mae rhifyn Hydref papur bro Ystwyth ac Wyre ar gael i’w fwynhau!
Mynnwch eich copi o’ch siop leol a mwynhewch y darllen.
Yn rhifyn Hydref
- Newyddion o’r pentrefi
- Hanes Eiry o Langwyryfon ar antur yn Ne Affrig
- Syniad ar sut i ddefnyddio eich betys yn y golofn goginio
- Gwyn Evans yw cynghorydd y mis yng nghornel y cynghorwyr
- Aros i Feddwl gan
- Beti Griffiths
- Profiad
- Tia o Flaenplwyf yn cael tro ar hedfan hofrennydd
- Nodiadau Natur gan Ann M. Davies
- Mari Morgan sy’n cofio’r frenhines yng Nghornel y Beirdd
- Croesair gan Siân Lewis
Digon o amrywiaeth i’ch cadw yn ddiddan wrth i’r nosweithiau dynnu ati.
Cofiwch ein bod ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr neu gyfranwyr newydd? Os ydych yn byw yn ardal Y DDOLEN a bod gyda chi diddordeb mewn cynorthwyo gyda’r papur, cysylltwch â ni y.ddolen@gmail.com
Byddai’n braf hefyd cryfhau’r cysylltiad rhwng BroAber a’r papur felly os fyddai rhywun a diddordeb cyhoeddi straeon ar ran Y DDOLEN ar y wefan, bysen yn falch clywed oddi wrthych.