Am ddiwrnod o seiclo

Dydd Sadwrn llawn cyffro yng Ngŵyl Seiclo Aberystwyth.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Gŵyl Seiclo Aberystwyth
Gŵyl Seiclo Aberystwyth

Andrew Davies, Caffi Gruff

Gŵyl Seiclo Aberystwyth.

Eluned King (dde) yn ennill ag Ella Barnwell (chwith) yn ail.

Gŵyl Seiclo Aberystwyth.

Lois Brewer, Clwb Beicio Ystwyth, yn drydydd yn y prif ras.

Gŵyl Seiclo Aberystwyth.

Buddugwyr y prif ras i ddynion.

Gŵyl Seiclo Aberystwyth

Hedfan mewn i’r cornel cyntaf!

Ar fore Sadwrn Gŵyl Seiclo Aberystwyth cafwyd rasys ar gyfer disgyblion ysgolion lleol ac roedd y pwyslais ar fwynhad a chymryd rhan. Rwy’n siŵr ei fod wedi bod yn brofiad i’w gofio i’r plant yn arbennig wrth iddynt orffen y ras gyda’r cefnogwyr yn gweiddi ac yn bwrw’r hysbysfyrddau i ddangos eu cefnogaeth.

Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen roedd yr awyrgylch yn fwy cystadleuol wrth i rasys Pencampwriaeth Criterium Cymru gael eu cynnal. Felly nôl a mi i’r Prom i weld y ddwy prif ras ar gyfer y merched  a’r dynion. Ond wrth i mi gyrraedd nôl clywais fy mod newydd fethu buddugoliaeth gampus i Andrew Davies, Tîm Caffi Gruff, yn y ras y “Meistri 50+” ond fe lwyddes i gael gafael ynddo i’w longyfarch a chael llun.

Felly at y brif ras ar gyfer menywod. Dechreuodd Eluned King greu bwlch yn dilyn y cylch cyntaf o gwmpas y dre ac fe aeth hi ymlaen ennill yn hawdd. Mae’r llun ohoni hi’n ennill ar ddiwedd y ras yn ei dangos yn gwibio am y llinell yng nghanol nifer o reidwyr, ond erbyn hyn roedd hi gylch cyfan ar y blaen! Ond roedd y ras am yr ail a’r trydydd safle yn agos iawn gydag Ella Barnwell yn dod yn ail. Yn dilyn perfformiad gwych,  roedd yn braf gweld Lois Brewer o Glwb Beicio Ystwyth yn drydydd.

Yn y ras olaf ar gyfer y dynion bu rhaid atal y rasio am ychydig wedi damwain wrth gornel cas y castell. Ond wedi’r ail-gychwyn aelodau o dîm Academi Rasio Cymru wnaeth arwain y ras gydag un neu ddau arall yn cysgodi yn eu canol. Er i ambell aelod o’r tîm geisio torri’n glir daeth y grŵp ‘nôl at ei gilydd cyn i Joe Holt (Academi Rasio Cymru) dorri’n rhydd ar y cylch olaf i ennill y ras o flaen torf swnllyd. Daeth Liam James-Morris yn ail gyda William Truelove yn drydydd – y ddau o’r Academi.

Roedd yn braf gweld enwau aelodau eraill o dimau lleol Ystwyth a Chaffi Gruff yn ymddangos yn y canlyniadau gan gynnwys Elaine Rowlands, Llion Rees-Jenkins, Poppie Haynes ac Osian Craig. Ymddiheuriadau os rwy’ wedi methu enwi unrhyw un arall. Byddaf yn ychwanegu dolen i unrhyw ganlyniadau lleol eraill yn y sylwadau isod.

Er i’r glaw fygwth ar adegau cafwyd diwrnod delfrydol o rasio a diwrnod llawn lliw a hwyl i’r dorf. Mawr yw’r diolch i Shelley Childs a’r tîm o wirfoddolwyr, Seiclo Cymru ac wrth sgwrs i’r cystadleuwyr i gyd.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.