I weld canlyniadau’r rasus ar gyfer plant ysgol gweler: https://www.abercyclefest.co.uk/wp-content/uploads/2022/06/CeredigionActif_Results_2022.pdf
Ar fore Sadwrn Gŵyl Seiclo Aberystwyth cafwyd rasys ar gyfer disgyblion ysgolion lleol ac roedd y pwyslais ar fwynhad a chymryd rhan. Rwy’n siŵr ei fod wedi bod yn brofiad i’w gofio i’r plant yn arbennig wrth iddynt orffen y ras gyda’r cefnogwyr yn gweiddi ac yn bwrw’r hysbysfyrddau i ddangos eu cefnogaeth.
Wrth i’r dydd fynd yn ei flaen roedd yr awyrgylch yn fwy cystadleuol wrth i rasys Pencampwriaeth Criterium Cymru gael eu cynnal. Felly nôl a mi i’r Prom i weld y ddwy prif ras ar gyfer y merched a’r dynion. Ond wrth i mi gyrraedd nôl clywais fy mod newydd fethu buddugoliaeth gampus i Andrew Davies, Tîm Caffi Gruff, yn y ras y “Meistri 50+” ond fe lwyddes i gael gafael ynddo i’w longyfarch a chael llun.
Felly at y brif ras ar gyfer menywod. Dechreuodd Eluned King greu bwlch yn dilyn y cylch cyntaf o gwmpas y dre ac fe aeth hi ymlaen ennill yn hawdd. Mae’r llun ohoni hi’n ennill ar ddiwedd y ras yn ei dangos yn gwibio am y llinell yng nghanol nifer o reidwyr, ond erbyn hyn roedd hi gylch cyfan ar y blaen! Ond roedd y ras am yr ail a’r trydydd safle yn agos iawn gydag Ella Barnwell yn dod yn ail. Yn dilyn perfformiad gwych, roedd yn braf gweld Lois Brewer o Glwb Beicio Ystwyth yn drydydd.
Yn y ras olaf ar gyfer y dynion bu rhaid atal y rasio am ychydig wedi damwain wrth gornel cas y castell. Ond wedi’r ail-gychwyn aelodau o dîm Academi Rasio Cymru wnaeth arwain y ras gydag un neu ddau arall yn cysgodi yn eu canol. Er i ambell aelod o’r tîm geisio torri’n glir daeth y grŵp ‘nôl at ei gilydd cyn i Joe Holt (Academi Rasio Cymru) dorri’n rhydd ar y cylch olaf i ennill y ras o flaen torf swnllyd. Daeth Liam James-Morris yn ail gyda William Truelove yn drydydd – y ddau o’r Academi.
Roedd yn braf gweld enwau aelodau eraill o dimau lleol Ystwyth a Chaffi Gruff yn ymddangos yn y canlyniadau gan gynnwys Elaine Rowlands, Llion Rees-Jenkins, Poppie Haynes ac Osian Craig. Ymddiheuriadau os rwy’ wedi methu enwi unrhyw un arall. Byddaf yn ychwanegu dolen i unrhyw ganlyniadau lleol eraill yn y sylwadau isod.
Er i’r glaw fygwth ar adegau cafwyd diwrnod delfrydol o rasio a diwrnod llawn lliw a hwyl i’r dorf. Mawr yw’r diolch i Shelley Childs a’r tîm o wirfoddolwyr, Seiclo Cymru ac wrth sgwrs i’r cystadleuwyr i gyd.