Am ddiweddglo i’r tymor!

Aberystwyth 1 – 1 Cei Connah 23/04/2022

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Aber v Cei Connah 23/04/22

Allen yn penio ar y postyn pella i ddod ag Aber yn gyfartal.

Aber v Cei Connah 23/04/22Gruffudd Huw

Thorn yn rhwydo ond yn camsefyll.

Aber v Cei Connah 23/04/22

Cameron Allen yn cystadlu gyda’r golwr.

9 diwrnod o gnoi gwinedd, rhyddhad a chyffro i Aber a mis Ebrill i’w gofio i Cameron Allen.

Wrth baratoi i chwarae Derwyddon Cefn ar Ddydd Gwener y Groglith roedd cefnogwyr Aber ar un llaw yn poeni am y posibilrwydd o ddisgyn o Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf ers ei sefydlu. Ar y llaw arall, roeddynt yn gobeithio am orffen yn seithfed ac i fod yn rhan o’r gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor. Rhoddodd buddugoliaeth gyfforddus Aber o chwe gôl i ddim yn erbyn y Derwyddon y dechrau gorau posib i benwythnos y Pasg.

Felly roedd cryn ddisgwyl ymlaen at y gêm ar ddydd Llun y Pasg yn erbyn Y Barri ar Barc Jenner gyda’r ddau senario’n dal yn bosib. Roedd y gêm yn fyw ar S4C a thoc wedi dechrau gêm daeth hwb enfawr i obeithion Aber wrth i Steff Davies benio Aber ar y blaen wedi dwy funud yn unig. Pob clod i amddiffyn Aber wrth iddynt frwydro i atal Barri rhag dod yn gyfartal am weddill yr hanner. Roedd yr ail hanner yn dipyn gwell i Aber ac yn y diwedd sicrhawyd buddugoliaeth o gôl i ddim. Roedd y canlyniad yn sicrhau y bydd Aber yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf ond yn golygu fod Y Barri’n disgyn o’r Uwch Gynghrair.

Gydag Aber yn ddiogel rhag y cwymp roedd y cefnogwyr yn breuddwydio am fuddugoliaeth yn erbyn Cei Connah yng ngêm ola’r tymor a gorffen yn seithfed yn yr Uwch Gynghrair er mwyn cymryd rhan yn y gemau ail gyfle. Nid felly y bu ac fe gafwyd gêm gyfartal digon di fflach i gloi’r tymor.

Roedd chwaraewyr Aber yn dathlu ychydig wedi hanner awr wrth i Jack Thorn rwydo o ymyl y cwrt chwech. Byr fu’r dathlu wrth i’r dyfarnwr cynorthwyol godi ei faner i ddynodi fod Thorn yn cam-sefyll.

Pum munud yn ddiweddarach, chwaraewyr Cei Connah oedd yn dathlu wrth i Curran sgorio wedi’r bêl adlami ato wedi arbediad gan Zabret. Roedd siom pellach i Aber cyn yr hanner wrth i Franklin, o bosib chwaraewr gorau’r tymor a mwya’ creadigol Aber, orfod gadael y cae wedi anaf.

Roedd Cei Connah ar y blaen yn haeddiannol ar yr hanner ac yn wir roeddynt yn parhau i reoli am gyfnodau hir o’r ail hanner. Roedd Aber yn dibynnu ar ambell gyfle prin o giciau gosod neu drwy wrthymosod.

Fe dalodd dyfalbarhad Aber wedi 76 munud. Carlamodd Ben Wynne lawr yr asgell dde a chroesi i’r postyn pella’ a dyma Cameron Allen yn coroni mis Ebrill i’w gofio gyda pheniad celfydd i gefn y rhwyd i ddod ac Aber yn gyfartal. Gôl gyntaf Allen i Aber yn yr Uwch Gynghrair a hyn yn dilyn dau ymddangosiad i Dîm Ysgolion Cymru dan 18 yn gynharach yn y mis. Yn sicr dyma uchafbwynt y gêm ac roedd yn braf gweld bachgen lleol arall yn llwyddo i greu argraff.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal ac roedd y pwynt ddim yn ddigon wrth i Met Caerdydd sicrhau ei lle yn y gemau ail gyfle ar draul Aber.

Uchafbwyntiau Sgorio: Aberystwyth 1 Cei Connah 1