Papur Bro Ystwyth ac Wyre yn mynd i hwyl yr Ŵyl!
Ydi mae’r ’Steddfod wedi glanio ar stepen ein drws eleni a rhaid oedd cymryd y cyfle i nodi’r achlysur
. Wedi’r cyfan mae tri deg mlynedd ers ymweliad diwethaf y Genedlaethol a’r Sir!
Ni wedi cynhyrchu rhifyn arbennig 44 Tudalen! Ie, chi’n eitha reit – ma hwn yn rhifyn swmpus, llawn dop o erthyglau diddorol ein cyfranogwyr selog o fis i fis a nifer o erthyglau ychwanegol difyr! Rhywbeth at ddant pawb, ein darllenwyr misol a’n ffrindiau o bob cwr o Gymru.
Beth sydd ynddo fe, dwi’n clywed chi’n gofyn?
- Newyddion o’r pentrefi
- Hanes y Sioe Fawr
- Nodiadau Natur gan Ann M. Davies a’r ffotograffydd Ian Sant
- Aros i Feddwl gan Beti Griffiths
- Cornel y Beirdd gan Mari B. Morgan
- Croesair Eisteddfod gan Sian Lewis
- Colofn Coginio – rysáit addas i’r garafán!!
- Croeso cynnes cymunedau Ceredigion gan John Gwynn Jones
- Llun arbennig i’w liwio gan yr artist Rhiannon Roberts
- Hanesion Pobl yr Eisteddfod – beth sydd ’mlan gyda phobl yr ardal wythnos yma.
- Atgofion Eisteddfodol
- Dewch i wybod mwy am Delynau Derwent
- Y 10 lle gorau i ymweld â hwy ym mro Y DDOLEN
- Anturiaethau’r Swistir gan Alwena Hughes Moakes
- Beirdd y Fro gan Geraint Lewis
- Enillwyr Rhuban Glas Ardal y DDOLEN gan Aled Evans
- Phyllis Kinney yn 100 oed gan Aled Evans
Yng nghanol y papur mae map arbennig o’r ardal a gynhyrchwyd i ddathlu pen-blwydd 40 Y DDOLEN ychydig flynyddoedd yn ôl gan yr artist Valeriane Leblond. Mae’n werth ei weld!
Wir i chi’n mae’n rhifyn llawn dop a bargen am £1.
Pobl leol, cewch afael ar eich copi yn y siopau arferol ond ffrindiau o bell, cewch afael ar gopi ar stondin y papurau bro neu siop Inc ar faes yr Eisteddfod.
Yn ôl un o’n darllenwyr ffyddlon, Iona Mason…
Llawn dop – werth sawl punt – nid dim ond un
Rydym ni wedi mwynhau cynhyrchu’r papur, gobeithio byddwch chi’n mwynhau ei ddarllen.