Nos Wener, 16 Rhagfyr, er gwaetha’r tywydd oer a’r ffyrdd llithrig, roedd yna awyrgylch glyd a chynnes yng Nghapel y Garn ar gyfer dathliad Nadolig y Gymdeithas Lenyddol.
Aled Myrddin a’r teulu oedd yr artistiaid gwadd, ac fe gawson ni noson arbennig ganddyn nhw – yn garolau newydd sbon, yn ogystal â rhai o’n carolau cyfarwydd, gyda phob aelod o’r teulu’n cyfrannu’n wych ar ffurf unawdau, deuawd a pharti. Roedd y cwis hwyliog ac amrywiol yn llwyddiant mawr – gyda’r ddau dîm yn gyfartal ar y diwedd, ar ôl cystadleuaeth frwd.
Cafwyd cyfle hefyd i glywed gwir neges y Nadolig yn cael ei chyflwyno mewn ffordd ddidwyll gan Aled, a wnaeth ein hatgoffa am y rhodd arbennig a ddaeth i’n byd ar ffurf baban bach ym mhreseb Bethlehem dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Braf hefyd oedd cael cyfle i gydganu ambell garol fel cynulleidfa, ac roedd pawb yn cytuno ein bod wedi cael noson ragorol yn cyflwyno gwir naws a neges y Nadolig.