Dathlu’r 100

Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru yn dathlu canmlwyddiant y Geiriadur

Mererid Hopwood yn annerch y Cyfeillion.
Mererid Hopwood yn annerch y Cyfeillion.

Eleni mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedi bod yn dathlu canmlwyddiant ers dechrau’r gwaith o
gynhyrchu’r geiriadur. A dweud y gwir, mae’r dathliad flwyddyn yn hwyr, oherwydd Covid, fel y
gwelwch chi o’r dyddiadau ar y gacen.

Cyfeillion y Geiriadur yn ymweld ag arddangosfa Geiriau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfeillion y Geiriadur yn ymweld ag arddangosfa Geiriau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dydd Sadwrn, 15 Hydref, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cyfeillion y Geiriadur yn y Ganolfan
Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, y drws nesa i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Prif amcan y Cyfeillion yw cyflwyno’r Geiriadur i’r gynulleidfa ehangaf posibl yma yng Nghymru ac ar
draws y byd. Cafodd y Geiriadur ei gyhoeddi’n wreiddiol mewn pedair cyfrol swmpus ond erbyn hyn
mae ar gael am ddim ar lein ac fel ap ac felly ar gael yn unrhyw le.

Paned a chlonc yn y Ganolfan.
Paned a chlonc yn y Ganolfan.

Siaradodd Mererid Hopwood am gyfoeth y Gymraeg a rhai o’r geiriau llai cyfarwydd sy’n ei
chyfareddu. Gwahanol ystyron y gair ‘hyll’, a’i holl gysylltiadau, gafodd sylw gan Myrddin ap Dafydd,
Llywydd y Cyfeillion. Wedyn cafwyd cyflwyniad ar Air y Dydd y Geiriadur gan Brenda Williams, lle caiff gair neu ymadrodd ei gyhoeddi ar Facebook a Twitter bob diwrnod gwaith i dynnu sylw at yr eirfa a holl gyfoeth y gwaith. Mae’n bosib gweld Gair y Dydd os nad oes gennych gyfrif Facebook neu Twitter
personol. Yr hyn sydd angen ei wneud yw mynd i dudalen gartref y Geiriadur ar gyfrifiadur,
neu wefan y Geiriadur ar ffôn, a chlicio ar Air y Dydd.

Ar ôl gweld dwy ffilm fer o archif y BBC ar orffennol y Geiriadur aethpwyd draw i oriel Hengwrt yn y
Llyfrgell i weld arddangosfa Geiriau sy’n olrhain hanes geiriadura yng Nghymru wrth ddathlu’r
canmlwyddiant. Erbyn hynny roedd pawb yn barod am baned a darn o gacen y dathlu.