
Dal yn y crys melyn ar ddiwedd y trydydd cymal.
Stevie Williams yn ennill y cymal cyntaf
Wythnos yn ôl cyhoeddwyd y byddai Stevie Williams yn rasio gyda Geraint Thomas, Owain Doull a Luke Rowe yn y ras ffordd yng Ngemau’r Gymanwlad ym Mirmingham eleni. Ond dydd Sul diwethaf, ac i gloriannu wythnos i’w chofio iddo, dyma Stevie yn ennill y cymal cyntaf y Tour de Suisse.
Roedd grŵp o 15 wedi torri’n glir ychydig cyn diwedd y cymal, ond wrth agosáu at y llinell derfyn dyma Stevie’n gwibio’n glir i hawlio’r fuddugoliaeth. Roedd y grŵp yn cynnwys enwogion fel Adam Yates, Jakob Fuglsang, Remco Evenepoel a neb llai na Geraint Thomas.
Felly ar yr ail ddiwrnod, roedd yn gwisgo’r crys melyn fel arweinydd y ras ac o ychydig o eiliadau roedd yn dal yn gwisgo’r crys melyn ar ddiwedd yr ail gymal! Pob hwyl am weddill y ras.
Dal yn y crys melyn ar ddiwedd y trydydd cymal.
Dal mewn melyn ar gyfer cymal 5.
Erbyn diwedd cymal 5 daeth cyfnod Stevie Williams yn y crys melyn i ben wedi iddo golli amser yn sgil y dringfeydd serth. Roedd gwaeth i ddilyn wrth i’r tîm cyfan (Bahrain-Victorious) orfod gadael y ras oherwydd Covid.
Ond gwell newyddion i Gymru ar ddiwrnod olaf y ras. Daeth Geraint Thomas yn ail ar y cymal olaf ond roedd yn ddigon iddo sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn y Tour de Suisse.