Dathlu carreg filltir

Cyhoeddi 1000 o straeon ar wefan BroAber360

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Mae’n gyffrous pan fyddwch yn cyrraedd carreg filltir nodedig!

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd y milfed stori ar wefan BroAber360 a hynny’n gan un o’r cyfranwyr mwyaf selog, Mererid Boswell.

Mae’r wefan wedi tyfu ers ei sefydlu dwy flynedd yn ôl ac rydym yn araf bach yn cynyddu ar nifer ein cyfranwyr. Mae hi wedi bod mor braf gweld pob ysgol yng ngogledd y Sir yn cyhoeddi stori Cynefin y Cardi yn ystod yr wythnosau nesaf. Gobeithio byddant yn parhau i gyfrannu’n gyson.

Y nod yw lledaenu’r neges ymhellach am ba mor hawdd i’w cyfrannu stori ac wrth gwrs annog pobl i arbrofi gyda ffurfiau gwahanol e.e. fideo a blog.

Ein gwefan ni yw BroAber360 – platfform i’n straeon lleol ni. Hyfryd iawn i’w gweld ambell stori wedi dod i sylw cenedlaethol yn dilyn cael eu cyhoeddi yma’n gyntaf!

Gydag Eisteddfod Ceredigion 2022 ar fin cychwyn, anogwn ni chi i wneud y mwyaf o’ch gwefan fro. Ni eisiau gweld llwyth o straeon yn dod o’r maes yn Nhregaron – a pheidiwch a meddwl bod angen traethawd, mae llun a paragraff bach gystal stori bob tamed weithiau.

Mae Golwg yn ein gwahodd i ddathlu’r garreg filltir o 1000 stori ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Mawrth 2 Awst pan fyddant yn cynnal sgwrs ddifyr a dathliad o’n cyfraniadau. Cynhelir sgwrs banel  Effaith newyddiadura gan-y-bobol felly galwch draw i’r stondin gan ein bod ni gyd yn rhan o lwyddiant BroAber360.

Ymlaen i’r garreg filltir nesaf!