Eleni mae Geiriadur Prifysgol Cymru wedi bod yn dathlu canmlwyddiant ers dechrau’r gwaith o
gynhyrchu’r geiriadur. A dweud y gwir, mae’r dathliad flwyddyn yn hwyr, oherwydd Covid, fel y
gwelwch chi o’r dyddiadau ar y gacen.
Dydd Sadwrn, 15 Hydref, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cyfeillion y Geiriadur yn y Ganolfan
Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, y drws nesa i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Prif amcan y Cyfeillion yw cyflwyno’r Geiriadur i’r gynulleidfa ehangaf posibl yma yng Nghymru ac ar
draws y byd. Cafodd y Geiriadur ei gyhoeddi’n wreiddiol mewn pedair cyfrol swmpus ond erbyn hyn
mae ar gael am ddim ar lein ac fel ap ac felly ar gael yn unrhyw le.
Siaradodd Mererid Hopwood am gyfoeth y Gymraeg a rhai o’r geiriau llai cyfarwydd sy’n ei
chyfareddu. Gwahanol ystyron y gair ‘hyll’, a’i holl gysylltiadau, gafodd sylw gan Myrddin ap Dafydd,
Llywydd y Cyfeillion. Wedyn cafwyd cyflwyniad ar Air y Dydd y Geiriadur gan Brenda Williams, lle caiff gair neu ymadrodd ei gyhoeddi ar Facebook a Twitter bob diwrnod gwaith i dynnu sylw at yr eirfa a holl gyfoeth y gwaith. Mae’n bosib gweld Gair y Dydd os nad oes gennych gyfrif Facebook neu Twitter
personol. Yr hyn sydd angen ei wneud yw mynd i dudalen gartref y Geiriadur ar gyfrifiadur,
neu wefan y Geiriadur ar ffôn, a chlicio ar Air y Dydd.
Ar ôl gweld dwy ffilm fer o archif y BBC ar orffennol y Geiriadur aethpwyd draw i oriel Hengwrt yn y
Llyfrgell i weld arddangosfa Geiriau sy’n olrhain hanes geiriadura yng Nghymru wrth ddathlu’r
canmlwyddiant. Erbyn hynny roedd pawb yn barod am baned a darn o gacen y dathlu.