Mae cystadleuaeth o fri sy’n cynnig cyfle i gerddorion ifanc ardal Aberystwyth berfformio, gan eu hannog i weld pwysigrwydd a gwerth cerddoriaeth yn eu bywydau, yn cael ei chynnal unwaith eto, yn dilyn bwlch yn sgil y pandemig.
Y gobaith yw y bydd y digwyddiad hwn, sy’n cael ei gynnal dan nawdd Clwb Rotary Aberystwyth ac Ardal Aberystwyth, yn arwain at adfywio’r gystadleuaeth flynyddol hon yn Aberystwyth.
Cynhelir rownd Aberystwyth ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd 2022, yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, am 2.00yp. Mae angen cyflwyno ffurflenni cais i Richard Griffiths (yng Ngwesty’r Richmond) erbyn 8 Tachwedd.
Ceir dau gategori: offerynnwr unigol a lleisiol unigol, a bydd angen cyflwyno rhaglen ddeg munud sy’n cynnwys o leiaf ddau ddarn cyferbyniol.
Bydd gwobrau’n cael eu dyfarnu i’r cystadleuwyr hynny sy’n ennill y safle cyntaf, ail a thrydydd ym mhob categori.
Mae’r gystadleuaeth gyfan mewn pum cymal, gyda rownd derfynol y Deyrnas Unedig yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 22 Ebrill 2023.
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad hwn, byddem yn hynod o ddiolchgar o glywed gennych.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cystadlu, cysylltwch â ni. Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu eich hyder, cael profiad o berfformio a dangos eich talent!
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ebostiwch:
info@ardalaberystwythrotary.cymru
Os ydych yn dymuno bod yn bresennol i wrando ar y gystadleuaeth, mae croeso i bawb. Y tâl mynediad yw £2.