Cyrl Cymru ar y brig

Llongyfarchiadau i Richard James ar ennill gwobr am ei waith yn trin gwallt cyrliog.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Richard James, Cyrl Cymru

Enillodd Richard James, perchennog Cyrl Cymru yn Aberystwyth, y wobr “Curly Stylist of the Year”, Cymru yng ngwobrau Prydeinig y Salon Awards.   Cynhaliwyd y gwobrau dros ddwy noswaith mewn gwesty mawreddog yn Llundain gyda dros 700 yn mynychu. Yn llywio’r noswaith trin gwallt roedd y steilydd enwog Errol Douglas MBE a Kate Jeffrey, sylfaenydd y Salon Awards.

Dywedodd Richard: “Mae ennill y wobr yma yn dipyn o gamp. Dim ond y llynedd yr agorais i’r salon.  Dechreuais arbenigo mewn trin gwallt cyrliog yn 2018 ac mae wedi bod yn waith caled i gyrraedd yr uchafbwynt yma.”

Braf gweld busnes lleol yn llwyddo ac yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol.