Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr

Pwy sydd wedi eu hethol fel cynghorwyr cymuned wardiau Llanbadarn Fawr?

Dros y dyddiau nesaf, bydd prysurdeb mawr gyda nifer o etholiadau Cyngor Sir, Cyngor Cymuned a Chyngor Tref ar ddydd Iau’r 5ed o Fai 2022.

Ond mae rhai wardiau yng Ngogledd Ceredigion lle nad oes etholiad am y Cyngor Cymuned a’r bwriad fydd dod i nabod y cynghorwyr llwyddiannus.

Yn ôl gwefan y Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr

Mae’r Cyngor Cymuned yn cynrychioli pawb sy’n byw, gweithio ac astudio yn Llanbadarn trwy ei bymtheg aelod etholedig, ac wedi’i rannu’n ddwy ward – Padarn a Sulien.

Fel yr haen gyntaf o lywodraeth, rydym yn delio’n bennaf â materion lleol gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol megis mannau chwarae a chaeau chwarae. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â’r Heddlu i leihau trosedd a gwella diogelwch yn y gymuned. Fel ymgynghorwyr yr holl geisiadau cynllunio yn lleol, mae gennym ran bwysig i’w chwarae wrth lunio dyfodol ein cymuned.

Mae cyfarfodydd llawn y Cyngor ar yr ail ddydd Llun o bob mis (ar wahân i fis Awst) yn festri Capel Soar, Rhiw Briallu, Llanbadarn Fawr, SY23 3SE.

Pwy sydd wedi cael eu hethol?

Ward Sulien

Yn ward Sulien, derbyniwyd 9 enwebiad ar gyfer 9 sedd, felly mae pawb wedi ei hethol.

Y Cynghorwyr sydd yn dychwelyd: –

  • Ben Davies (Annibynnol)
  • D Martin J Davies
  • David Greaney (Annibynnol)
  • Linda Keeler (Annibynnol)

Y Cynghorwyr newydd

  • Carolyn Hodges (Plaid Cymru)
  • Mandy Daniel
  • Thomas Kendall (Annibynnol) – wŷr y Cynghorydd Ben Davies uchod
  • Andrew Graham Loat (Annibynnol)
  • David Graham Pain
Thomas Kendall a Ben Davies yn brysur yn glanhau

Padarn

Yn ward Padarn, dim ond Gareth Davies (Plaid Cymru) a roddodd ei enw ar gyfer ward lle’r oedd 6 sedd. Mae 5 sedd felly yn wag.

Steve Davies, David Greaney, Talat Chaudhri a Carolyn Hodges

Sut byddant yn llenwi’r seddi gwag?

Unwaith bydd y Cyngor yn ail-ddechrau cwrdd, gall ddilyn proses sydd yn rhoi cyfle i alw etholiad (ar gais 10 aelod o’r cyhoedd o’r ward), neu os nad oes cais am etholiad – gyfethol rhywun i’r sedd. Penderfyniad y 10 Cynghorydd a benodwyd yw a gaiff y person eu cyfethol.

Ffarwelio

Mae’r Cyngor yn ffarwelio a Dafydd John Pritchard a Stephanie Lennon sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth.

Diolch i’r cyn-gynghorwyr, diolch i’r cynghorwyr sydd yn parhau, a phob lwc i’r cynghorwyr newydd.