Fel rhan o brosiect ‘Cynefin y Cardi’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, bu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Craig yr Wylfa’n cydweithio gyda chwmni CISP Multimedia i greu tudalen o gomig yn seiliedig ar agwedd o hanes lleol.
Roedd hi’n dipyn o dasg dewis testun ar gyfer ein panel ni gan fod yna gyfoeth o hanesion a straeon o gwmpas yr ardal a bod y dosbarth wedi astudio sawl agwedd o hanes lleol dros y flwyddyn. Yn y diwedd, penderfynwyd cyflwyno Chwedl Taliesin gan fod y plant wedi mwynhau’r chwedl arallfydol yma.
Roedd hi’n brofiad diddorol a gwahanol iawn i fod yn rhan o’r prosiect yma. Yn ogystal â’r elfen o ymchwilio, cafodd y plant flas ar gynllunio a dylunio i greu’r panel hefyd. Mae’r gwaith yn rhan o ymrwymiad yr ysgol i egwyddorion y Siarter Iaith Genedlaethol, ac rydym yn ddiolchgar iawn o gael bod yn rhan o’r gwaith yma. Bydd y paneli ar gael i bawb ei gweld ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.
Rydym newydd dderbyn newyddion cyffrous bod y comig wedi ei argraffu ac ar fin ein cyrraedd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y comig gorffenedig dros y diwrnodau nesaf.