Mae disgyblion blwyddyn 7 wedi bod yn rhan o brosiect arbennig ar gyfer ysgolion y Sir sef ‘Prosiect Cynefin Eisteddfod 2022’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n prysur agosáu!
Ymchwiliodd a chyflwynodd y disgyblion wybodaeth ar chwech o arwyr Penweddig:
- Dafydd ap Gwilym (Celfyddydau a Llenyddiaeth)
- Rhys Ddu (Hanes)
- Stevie Williams (Hamdden a Chwaraeon)
- Dai Jones Llanilar (Adloniant)
- Maelor Gawr (Daearyddiaeth)
- Eirwen Gwynn (Gwyddoniaeth a Natur).
O dan arweiniad Beth o gwmni Cisp Multimedia, dysgodd y disgyblion sut i osod a chyflwyno’u gwaith yn ogystal â dysgu am y defnydd o liw a gradd liwio.
Cynyddwyd diddordeb, ymwybyddiaeth a gwybodaeth y disgyblion o’r arwyr wrth gynnal cyfweliadau gyda Dr Bleddyn Huws, Prifysgol Aberystwyth, Dr Rhun Emlyn, Prifysgol Aberystwyth, Stevie Williams, Dr Iolo ap Gwynn a Miss Beti Griffiths. Carwn ddiolch iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr. Gwnaeth y disgyblion fwynhau eu holi er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth.
Ar ddiwedd y tymor, roedd y disgyblion yn falch iawn o weld eu gwaith terfynol yng nghomig Cynefin y Cardi.
Maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld eu gwaith wedi ei gyflwyno ar baneli yn yr Eisteddfod ym Mhentref Ceredigion mewn ychydig ddyddiau.