Daeth criw bach awyddus o ddisgyblion Blwyddyn 7 at ei gilydd er mwyn gweithio ar brosiect Cynefin y Cardi, ac roedd gyda nhw dipyn o awgrymiadau amrywiol pwy yw ein harwyr.
Enwau a ddaeth yn syth oedd Taron Egerton, yr actor byd-enwog sydd yn aml i’w weld yn y dref. Roedd Rhys Norrington-Davies hefyd yn enw poblogaidd ac yntau nawr yn un o enwogion y byd pêl-droed yng Nghymru ac ar ei ffordd i Gwpan y Byd. Enw arall poblogaidd oedd Owain Glyndŵr, gyda’r disgyblion yn cofio ei arwyddocâd fel gwir dywysog Cymru.
Cafwyd sesiwn arbennig gyda Beth o gwmni Cisp Multimedia, lle dysgodd y disgyblion dipyn am ddefnydd o liw, graddliwio a sut i ddewis gwahanol liwiau a gosodiadau ar gyfer y cardiau. Wedyn, daeth y gwaith creadigol gyda phawb yn mwynhau creu eu lluniau o’r arwyr, i gyd yn eu harddulliau amrywiol eu hunain.
Mae’r disgyblion nawr yn edrych ymlaen yn fawr at weld eu gwaith ar faes yr Eisteddfod a hynny ar raddfa dipyn mwy, a gobeithio, ryw ddydd, taro mewn i’r arwyr mewn bywyd go iawn!