Cymru United

Sioe Radio wythnosol ar Radio Aber

Cered Menter Iaith Ceredigion
gan Cered Menter Iaith Ceredigion

Peidiwch â cholli Cymru United gyda Rhodri Francis bob dydd Iau am 12:00 ar Radio Aber mewn cydweithrediad gyda Cered. Mae’r rhaglen drwy gyfrwng y Saesneg.
Yn ôl y cyflwynydd:

Mae’n gyfle gwych i ddangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – siaradwyr Cymraeg, pobl ddi-Gymraeg, dysgwyr, hen ac ifanc – pawb. Mae’n iaith sy’n perthyn i’r byd.

Y gwestai ar Cymru United fydd:

  • 10 Chwefror – Sam Price, myfyriwr yng Ngholeg Ceredigion.
  • 17 Chwefror – Geraint Roberts, sylwebydd pêl-droed Radio Aber.
  • 24 Chwefror – Lowri Fron, Bro 360.
  • 3 Mawrth – Catherine Taylor, cyflwynydd gyda Radio Aber.
  • 10 Mawrth – Dilwyn Roberts, cyflwynydd gyda Radio Aber.