Cylchgrawn cerddoriaeth yn noddi tîm pêl-droed dan 9 lleol

Y Selar yn noddi tîm newydd sy’n chwarae yng Nghynghrair Ieuenctid Aberystwyth

Owain Schiavone
gan Owain Schiavone
Cewri-Ystwyth-cit-newydd

Ar drothwy Cwpan y Byd 2022, mae cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi dangos eu cefnogaeth i bêl-droed ar lawr gwlad trwy noddi tîm pêl-droed dan 9 oed sy’n chwarae yng Nghynghrair Ieuenctid Aberystwyth.

Ffurfiwyd tîm Cewri Ystwyth fel un o dimau ieuenctid CPD Llanilar dros yr haf ac maent wedi bod yn chwarae yn y gynghrair yn wythnosol ers mis Medi.

Chwaraewyr 7 oed sydd yn y tîm, a dyma’r cyfle cyntaf iddynt chwarae mewn cynghrair, ac yn wir fel rhan o dîm wrth iddynt fethu dwy flynedd o bêl-droed o ganlyniad i Covid. Yn ôl Y Selar maent yn falch i gefnogi’r tîm ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt am weddill y tymor, a thros y tymhorau i ddod.

“Rydan ni’n falch iawn i gefnogi Cewri Ystwyth ac yn gobeithio eu gweld yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.

“Rydym yn ymwybodol fod y grŵp oedran yma’n enwedig wedi colli cyfle i ddechrau chwarae pêl-droed pan ddylen nhw fod wedi o ganlyniad i amseru’r pandemig. Os allwn ni chwarae rhan fach yn eu helpu i adennill tir trwy noddi’r cit yna bydd hynny’n dod â boddhad mawr i ni.

“Roedden ni wedi cytuno i noddi’r tîm ar ddechrau’r tymor ond roedd peth oedi gydag archeb y cít. Fel mae’n digwydd, mae’r amseru’n briodol iawn wrth iddyn nhw chwarae eu gemau cyntaf ddydd Sadwrn, ddeuddydd cyn i Gymru chwarae eu gêm gyntaf yn Qatar.”

Mae perthynas agos iawn rhwng cerddoriaeth a thîm pêl-droed Cymru – does dim ond angen mynd i gêm yn stadiwm Dinas Caerdydd i weld a chlywed hynny. Mae’r llu o senglau Cymraeg sydd wedi eu rhyddhau i gefnogi ymgyrch y tîm yng Nghwpan y Byd yn dystiolaeth pellach.

Nid Y Selar ydy’r brand cerddoriaeth cyntaf i noddi tîm pêl-droed. Mae bandiau fel Wet Wet Wet, y Super Furry Animals a Goldie Lookin’ Chain i gyd wedi cefnogi clybiau lleol yn y gorffennol. Yn ddiweddar hefyd fe ddatgelodd label Recordiau Côsh noddi CPD Merched Bethel.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r Selar am eu cefnogaeth ac mae’r plant wrth eu boddau â’r cit newydd” meddai Gareth Hughes, un o hyfforddwyr Cewri Ystwyth.

“A hwythau’n newydd i’r gêm, maen nhw’n dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf ar hyn o bryd, ond gyda lwc bydd y cit newydd yn eu hysgogi.”