Cyfres rasio trêl yr haf yn agor yn Nant yr Arian

Cwrs heriol mewn lleoliad godidog i ddechrau cyfres newydd yn y canolbarth

gan Rhedeg Aber
Race-start-pic
Builth-and-District-winners

Rhedwyr buddugol Llanfair ym Muallt (chwith i’r dde) – Nicola Kelly, Phil Morris, Donna Morris, Kate Jones, Robin Woods a Callum Morris

278692187_671074984179754

Rhedwyr llwyddiannus y ras gynradd

Bwlch Nant yr Arian oedd cefnlen odidog y gyntaf mewn cyfres newydd o rasys llwybrau canol wythnos lleol ar nos Fercher 20 Ebrill.

Trefnir y gyfres newydd gan bwyllgor Sialens y Barcud Coch, gyda’r nod o ddarparu cyfleodd rasio trêl o safon i redwyr ieuenctid ac oedolion yng Nghanolbarth Cymru.

Rasys ieuenctid yn creu argraff

Rasys y plant cynradd oedd yn agor y gweithgarwch yn Nant yr Arian gyda dau gategori oedran yn rasio cwrs ychydig llai na milltir o amgylch y llyn ger y Ganolfan Ymwelwyr. Enillydd y ras, gan hefyd gipio’r fuddugoliaeth yn y categori blwyddyn 3 a 4, oedd Yasmine Evans o Ysgol Comins Coch. Ddim yn bell y tu ôl iddi yn yr ail safle, ac yn ennill y ras blwyddyn 5 a 6, oedd Moi Schiavone o Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Roedd y rhedwyr oedran uwchradd yn rasio cwrs bryniog tua 3 milltir. Enillydd y ras oedd Maddison Hughes o Maldwyn Harriers mewn amser trawiadol o 22:16. Hi oedd y ferch gyntaf, ynghyd ag enillydd y categori blwyddyn 7-9, gyda Llew Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth yn fachgen cyntaf yn y categori hwnnw mewn 30:40.

Y bachgen cyntaf yn y categori blynyddoedd 10-13 oedd Callum Morris o Glwb Rhedeg Llanfair ym Muallt mewn 30:04 gydag Elen Morgan o Tîm Dic yn ferch gyntaf mewn 31:35.

Rhedwyr Llanfair ym Muallt yn teyrnasu

Roedd criw cryf o redwyr ar linell ddechrau’r ras oedolion gyda chynrychiolaeth dda o glybiau rhedeg lleol Llanfair ym Muallt, Aberystwyth, Clwb Triathlon Cerist, Harriers Prifysgol Aberystwyth a Sarn Helen.

Roedd y cwrs heriol yn arwain rhedwyr dros 5 milltir o lwybrau Nant yr Arian gyda bron 800 troedfedd o ddringo.

Roedd yn frwydr galed ar flaen y ras gyda Robin Woods, Clwb Rhedeg Llanfair ym Muallt yn cipio’r fuddugoliaeth yn y diwedd mewn amser o 32:48. Yn agos tu ôl iddo oedd aelod arall o’r un clwb, Phil Morris, mewn 32:55 ac yna Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth a Tîm Dic mewn 33:05.

Y rhedwraig ryngwladol Donna Morris o Glwb Llanfair ym Muallt oedd enillydd cyfforddus ras y merched gan orffen mewn 35:42. Roedd ei chyd aelod clwb Kate Jones yn ail mewn 40:14 gydag Emma Palfrey o Tîm Dic yn cwblhau’r podiwm mewn 41:03.

Roedd gwobrau categori hefyd i Edward Land o Aberystwyth (Dynion 40+), Norman Biggs o Sarn Helen (D50+) a Robert Sharratt o Ilkeston (D60+), ac ymysg y merched Claire Morris o Tîm Dic (Merched 40+) a Nicola Kelly o Lanfair ym Muallt (Merched 50+).

Rasys i ddod…

Bydd yr ail ras o’r gyfres yn digwydd yn ystâd yr Hafod ger Pontarfynach ar nos Fercher 4 Mai gyda’r ieuenctid yn dechrau am 6pm, ac yna’r oedolion am 7:15pm.

Cyn hynny bydd criw Sialens y Barcud Coch yn cynnal pencampwriaethau rhedeg llwybrau Cymru, Gorllewin Cymru a Phrifysgolion Cymru ym Mhontarfynach ddydd Sadwrn yma, 30 Ebrill, gyda nifer o redwyr llwybrau gorau Cymru dros bob oedran yn cystadlu.

Mae manylion llawn y rasys hyn, ynghyd â ffurflenni cofrestru, ar wefan Sialens y Barcud Coch.

Canlyniadau llawn Ras Hwyrnos Nant yr Arian – Ieuenctid

Canlyniadau llawn Ras Hwyrnos Nant yr Arian – oedolion