gan
Frân Wen
Yn Ynys Alys mae theatr, cerddoriaeth bop a rap yn cyfuno wrth inni ddilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.
A heno yw cyfle olaf pobol Aber i weld y cynhyrchiad, gan fod y dangosiad olaf yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth am 19:30.
Mae pensaer o Fachynlleth wedi bod yn ganolog i’r gwaith. Mae Jenny Hall yn gynllunydd setiau sy’n arbenigo mewn creu tai carbon isel, ac Ynys Alys yw un o’i phrosiectau diweddaraf.
Gwyliwch y fideo uchod, lle mae Jenny yn trafod y gwaith.
Ynys Alys, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 29 Mawrth, 19:30.