Croeso mawr i’r Brifwyl yn Bow Street

Carwyn yn rhoi croeso i’r Eisteddfod

gan Iestyn Hughes

O’n i’n edrych mlaen i gael diwrnod i ffwrdd ar y penwythnos ar ôl bod fflat-owt yn ffilmio’r ail raglen y gyfres newydd o Hen Dŷ Newydd pan awgrymodd y wraig, Lyndsey, beth am wneud rhywbeth i groesawu’r Eisteddfod i Geredigion.

Felly, dyma nôl y twls mas o’r fan a dechre arni – ond beth i’w wneud? Croeso? Ceredigion? 2022? Tregaron? Gymaint o ddewis, ond ar ôl pendroni am ryw funud neu ddwy – dim ond diwrnod oedd gennyf! – beth am ddefnyddio logo’r Eisteddfod?

Dwylo prysur yn helpu Carwyn

Mynd ati felly i dorri llythrennau allan, gyda Lyndsey a Maddison yn peintio, ac yn ffodus roedd hi’n ddiwrnod braf. Dim ond un lle yn fy meddwl i o’n i’n mynd i roi’r arwydd, a’r lle hynny oedd ar dop Maes Ceiro, y stad y cefais fy magu arni a hefyd ble ma’ Mam yn dal i fyw.

Y syniad gyda’r pren yn dal yr arwydd i fyny yw cynrychioli pabell, fel y rhaff sydd yn dal pabell i fyny. Dwi hefyd wedi ychwanegu arwydd I Dregaron a’r pellter, rhag ofn fod plant yng nghefn y car yn gofyn “’Da ni yna eto?”

Gobeithio wneith pawb gael hwyl yn yr ŵyl a’i gwneud hi’n Eisteddfod i’w chofio.

Carwyn Lloyd Jones