Clwb busnes Aberystwyth ar ei newydd wedd!

Clwb Busnes Aberystwyth yn ailgychwyn – ac yn galw ar bob busnes yn yr ardal i ymuno

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson

Yn ystod trafodaethau am ddyfodol Clwb Busnes Aberystwyth dros yr haf, bu nifer o fusnesau’n lleisio’r angen i gefnogi ei gilydd, gweithio ar syniadau newydd i hybu busnesau a’r dref, a rhannu gwybodaeth. Bydd y clwb ar ei newydd wedd yn cyfarfod bob yn ail ddydd Iau, a bydd y rhaglen yn cynnwys cymysgedd o gyfarfodydd cymdeithasol yn ogystal â chyfarfodydd fydd yn canolbwyntio ar ‘fusnes’ yn y dref a’r ardal.

Dywedodd Kerry Ferguson, perchennog lleol sy’n helpu i ffurfio’r clwb ar ei newydd wedd; “Roeddwn yn awyddus iawn i sicrhau nad oedd y clwb yn cau. Dwi wastad wedi teimlo’i bod hi’n bwysig bod llais busnes y dref yn un cryf, ac yn un sydd i’w glywed. Man lleiaf, roeddwn i eisiau gweld y Clwb Busnes yn parhau pan fydd angen y llais busnes hwnnw (ar gyfer ymgynghoriadau’r Cyngor Sir, er enghraifft).

Mae Aberystwyth a’r ardal yn rhoi her unigryw i ni pan ddaw’n fater o greu cymuned fusnes gref. Mae dros 120 o fusnesau annibynnol yn y dref ei hun, heb ystyried y rhai yn y pentrefi cyfagos neu fusnesau digidol, a’r rhai heb leoliad. Oherwydd hyn, mae wedi bod yn anodd dod â’r busnesau at ei gilydd mewn cymuned, a chreu’r llais hwnnw sy’n mynd i fod mor bwysig dros y blynyddoedd nesaf wrth i gyllid gael ei dynhau.”

Yn ychwanegol at ddod â llais i’r gymuned fusnes, mae’r aelodau wedi bod yn brysur gyda syniadau i hyrwyddo’r dref, ei chyfoeth o fusnesau a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Ymhlith y syniadau mae siopa hwyr gyda’r nos yn ystod mis Rhagfyr, fideo hyrwyddo ar gyfer busnesau’r trefi a phasbort Aberystwyth o bosibl.

Dywedodd Kerry, “Roeddwn i’n wirioneddol ‘chuffed’ gyda faint o wahanol fusnesau ddaeth i’n cyfarfod cyntaf yng Ngwesty’r Richmond yn gynharach yn y mis, a chan eu hawydd a’u hangerdd i gydweithio er mwyn helpu busnesau Aberystwyth yn gyffredinol. Ar y dechrau ro’n i’n disgwyl sialens i gael perchnogion busnes i gynnal y clwb, ond erbyn y diwedd roedd gennym ni gymaint o syniadau fel bod yn rhaid i ni gychwyn ar y gwaith yn syth.”

Os hoffech gymryd rhan yn y Clwb Busnes, cysylltwch â Kerry drwy kerry@cambrianweb.com i gael eich ychwanegu at y rhestr e-bostio. Does dim ffi ymuno, a dim pwysau i fynychu pob cyfarfod – dim ond bod yn rhan o’r gymuned fusnes a rhoi eich llais a’ch barn nawr ac yn y man.

Os oes gennych chi rai syniadau y gallai’r Clwb Busnes weithio arnynt yn 2023, cysylltwch!