Cerddwyr Rhydypennau

Ymweliad cofiadwy â Bro’r Preseli

gan Anwen Pierce

Ddechrau Gorffennaf cafwyd taith ddifyr dan ofal y tywysydd amryddawn Rees Thomas (sef y crefftwr sydd wedi creu Cadair Eisteddfod Ceredigion eleni, wrth gwrs!). Mentrodd Rees fynd â chriw mawr o Gerddwyr Rhydypennau i fro ei febyd yn ardal y Preseli. Mentrodd y cerddwyr i gopaon Foel Drygarn a Foel Cwm Cerwyn, a gweld golygfeydd eang ac anhygoel, cyn mwynhau bwyd ac awyrgylch gwych Tafarn Sinc. Ymwelwyd â bedd cawr arall – Twm Carnabwth – ar y ffordd adre. Mae Bow Street yn ffodus iawn i gael cymeriad fel Rees i roi’r pentre ar y map, yn arbennig eleni.