Cefnogi Cymru

Blwyddyn Chwech Yr Ysgol Gymraeg yn edrych ymlaen at Gwpan Y Byd

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Ysgol Gymraeg - Cwpan y Byd 1
Ysgol Gymraeg - Cwpan y Byd 2
Ysgol Gymraeg Cwpan y Byd 3
Yasgol Gymraeg - Cwpan y Byd 4

Mae wythnosau cyffroes o flaen disgyblion Blwyddyn 6 Yr Ysgol Gymraeg gyda chyfres o weithgaredd i’w adlonni a’u haddysgu. Yn y llun gweler y disgyblion o amgylch yr arwydd lliwgar newydd wrth fynedfa’r Ysgol.

Maent eisoes wedi cyfweld y cyn-ddisgybl a’r sylwebydd chwaraeon Dylan Ebenezer. Dydd Gwener byddant yn cynnal twrnament Cwpan y Byd yn yr Ysgol mewn cydweithrediad â Blwyddyn 12 Ysgol Penweddig.

Mae’r gweithgaredd hefyd yn cynnwys creu cân rap, ymweliad ag arddangosfa hanes pêl-droed Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol (O’r Cae Ras i Qatar) ac wrth sgwrs canu Yma o Hyd. Rwy’n siŵr y bydd cyfle i wylio ambell gêm hefyd!