Cefn y Rhwyd gyda Steff Davies

Seren CPD Aberystwyth oedd y gwestai ar y sioe wythnosol gan Cered ar Radio Aber heddiw – 31.10.22

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)
Llun clawr Cefn y Rhwyd

Steff Davies, ymosodwr Clwb Pêl-droed Aberystwyth oedd y gwestai gwadd ar “Cefn y Rhwyd” heddiw. Mae Aberystwyth wedi cael dechreuad go lew i’r tymor gan ennill eu pedair gêm gartref diwethaf yn Uwch Gynghrair Cymru. Gwrandewch ar y sioe am hanes y tymor hyd yn hyn o safbwynt un o’u sêr yn ogystal â dysgu sgoriau timoedd eraill yr ardal a llawer mwy.

Cofiwch, os hoffech wrando ar y sioe yn fyw gallwch ymuno â’r cyflwynwyr Steff Rees a Rhodri Francis bob dydd Llun rhwng 12.00 a 12.30 ar www.radioaber.cymru