Cefn y Rhwyd gyda Neil Rosser

Trafod ‘Ben Davies o Gastell Nedd’, tymor yr Elyrch, carfan Cymru, cerddoriaeth a mwy

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Y cerddor Neil Rosser oedd ein gwestai ar Cefn y Rhwyd heddiw a hynny er mwyn trafod sengl arbennig mae Neil a’i fab, Gwyn Rosser o Los Blancos, wedi ei chreu i glodfori un o’u hoff chwaraewyr yn nhîm Cymru, sef ‘Ben Davies o Gastell Nedd’.

Yn ogystal â thrafod y gân cafwyd sgwrs am dymor Abertawe, carfan Cymru a llawer mwy, gan gynnwys sgoriau pêl-droed timau Ceredigion.

I wrando a lawrlwytho’r gân: https://orcd.co/bendaviesogastellnedd

I wrando ar y sioe ar Facebook Radio Aber: https://www.facebook.com/RadioAberFM/videos/504239528429623