Braf oedd ailgydio mewn traddodiad Cymreig ym mhentref Llangwyryfon heddiw a chodi arian at y Cylch Meithrin yr un pryd.
Hedfanodd y cawl, y bara, y caws a’r cacs mas o’r gegin mewn i foliau llwglyd trigolion yr ardal. Roedd dechreuad rhewllyd i’r diwrnod wedi codi awydd pryd cynnes ar bawb.
Cyhoeddwyd enillydd y gystadleuaeth ffotograffiaeth ar thema Gymreig sef Meleri Jones. Llongyfarchiadau mawr iddi. Beirniadwyd y lluniau oll gan yr artist lleol Valériane Leblond – diolch yn fawr!
Rhaid diolch i bawb ddaeth i gefnogi, i’r cogyddion ac unrhyw un arall fu ynghlwm â llwyddiant y diwrnod.
Tybed a fydd adolygiad ar wefan mesur poblogrwydd bwytai’r ardal yn gweld aelod newydd pum seren yn y dyfodol agos?
Gyda niferoedd bychain o blant yng Nghylch Meithrin Llangwyryfon, bydd digwyddiadau eraill ar y gweill mewn dim o dro i godi arian, felly cadwch olwg amdanynt!