Caryl, wele Caryl

Caryl Lewis yn cwrdd â Caryl Lewis!

gan Iestyn Hughes

Cyfweliad byr gyda’r awdures arobryn Caryl Lewis wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â hi ei hun!

 

Mae’r darlun yn rhan o gyfres o luniau o lenorion Ceredigion gan Malcolm Gwyon sydd i’w gweld ym mhafiliwn Ceredigion yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r lluniau oll wedi’u creu ar gefndir o fapiau sy’n berthnasol i bob llenor. Daw Caryl yn wreiddiol o ardal Dihewyd, ond mae hi wedi ymsefydlu gyda’i theulu yn ardal Goginan ers rhai blynyddoedd.

Mae Malcolm Gwyon, a enillodd y comisiwn ar gyfer y gyfres, yn gerddor ac arlunydd adnabyddus iawn o ardal Aberteifi. Gellir gweld rhagor o’i waith ar ei dudalen Facebook, ac ar wefan Canfas.